Mae ‘na gêm Rygbi Cynghrair arbennig iawn yn dod i’r Cae Ras ddydd Sul, Tachwedd 11, pan fydd Cymru’n chwarae’r Iwerddon yn y Bencampwriaeth Ewropeaidd –cic gychwyn am 3pm.

Bydd Cymru – “y Dreigiau” – yn amddiffyn eu buddugoliaeth yn 2015 ac yn awyddus i sicrhau eu bod yn dal gafael ar eu cwpan arian.

A fydd ochr John Kear yn gallu gwrthsefyll popeth y bydd y Gwyddelod yn ei daflu atyn nhw? ‘Da ni wir yn gobeithio y byddan nhw! Felly gwnewch eich gorau i fod yno, gan y bydd y ddwy ochr sy’n dod i’r brig ym Mhencampwriaeth Ewrop hefyd yn mynd drwodd i Gwpan y Byd 2021, felly gallai hon fod yn gêm gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd!

OHERWYDD SETLIAD SIOMEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU, MAE RHAID I NI NEUD MWY O DORIADAU. MYNEGWCH EICH BARN…

Dilynwch nhw yn y cyfryngau cymdeithasol wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu gemau:

https://www.facebook.com/WalesRugbyLeague/

https://twitter.com/WalesRugbyL

https://www.instagram.com/walesrugbyleague/

Mae tocynnau ar gael yma

Mae rhaid i ni neud mwy o doriadau… a gofyn i dalwyr treth am fwy o arian. Ond cyn i ni fynd ymlaen, rydym ni yn eisiau’ch barn.

DWI ISIO MYNEGI FY MARN DOES DIM OTS GEN I