Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gŵyl ‘Spirit’ Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gŵyl ‘Spirit’ Wrecsam
Pobl a lle

Gŵyl ‘Spirit’ Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 27, 2023 9:40 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Gŵyl ‘Spirit’ Wrecsam
RHANNU

Erthgl gwadd

Mae Gŵyl ‘Spirit’ Wrecsam yn cael ei chynnal ar Gae Llyfrgell ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf, gyda chyfres o berfformiadau byw gwych, marchnad bwyd artisan anhygoel a llawer mwy!

Mae yna rywbeth i bawb yn y digwyddiad gwych yma sy’n addas i deuluoedd.

O 10am ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf, fe fydd Llwyn Isaf (y Cae Llyfrgell) yn cael ei drawsnewid, gyda chyfres o lorïau bwyd, llwyfan a hyd yn oed ardal chwarae i blant.

Mae’r artistiaid a fydd yn perfformio yn cynnwys Dawnswyr Caernarfon, Delta dance Academy Wrexham, Colin Daimond, Sandhya Sridhar, Yasmine Latkowski, Manoj Kumar, Palops United Wrexham, Manju Nilaparambath a llawer mwy. Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl cyfres o berfformwyr rhyngwladol medrus, ynghyd â gweithgareddau i blant.

Dywedodd Krishnapriya Ramamoorthy, cynhyrchydd a chyfarwyddwr Paallam Arts,

“Rydym ni’n credu y gall dawns a symudiad gysylltu pobl y tu hwnt i ffiniau.  Rydym ni’n bwriadu creu profiad unigryw tra’n dod â chelfyddydau a chymunedau ynghyd drwy Ŵyl ‘Spirit’ Wrecsam.”

Mae tocynnau ar gael rŵan, gyda thocyn teulu (i deulu o 4) ar gael am £5 yn unig.

Mae holl fanylion y tocynnau a dolenni i archebu ar gael yma

Mae’r digwyddiad cyntaf yma gan gwmni rheoli perfformiad celfyddydol lleol Paallam Arts, yn cael ei gefnogi gan Gyngor Wrecsam, Race Council Cymru, Tŷ Pawb, Sefydliad Cymunedol Cymru a mwy.

Yn rhan o’r ŵyl rydym ni’n cynnal gweithdy crefftau ymladd ar gyfer plant oed cynradd ar y diwrnodau canlynol, 30 Mehefin, 3 Gorffennaf a 5 Gorffennaf yng nghanolfan Tŷ Pawb.

Dyma’r amseroedd:

-Blynyddoedd 1 a 2 – 30 Mehefin rhwng 9:30AM-10:30AM/10:30AM-11:30AM ac amser byrbryd rhwng 11:30 a 12PM.

-Blynyddoedd 3 a 4 – 3 Gorffennaf rhwng 9:30 AM-10:30AM/10:30AM-11:30AM gydag amser byrbryd i ddilyn rhwng 11:30 a 12PM.

-Blynyddoedd 5 a 6 – 5 Gorffennaf rhwng 9:30 AM-10:30AM/10:30AM-11:30AM gydag amser byrbryd i ddilyn rhwng 11:30 a 12PM.

Fe fydd hwn yn ddigwyddiad ‘EWCH ATI I GYMRYD RHAN’ i blant

i gymryd rhan ac ymgysylltu gyda gweithgaredd corfforol.  Rydym ni’n cysylltu â chymaint o ysgolion â phosibl yn Sir Wrecsam i fod yn rhan o’r gweithdy. Gall ysgolion ddewis un diwrnod neu dri diwrnod yn seiliedig ar eu diddordebau.

Rydym ni’n cynnig ffi gostyngedig o £2 y plentyn i gymryd rhan yn y gweithdy i dalu am gost ychwanegol.

I gael gwybodaeth am yr ŵyl, ewch i www.paallamarts.org ac i gael unrhyw wybodaeth ychwanegol e-bostiwch paallam.arts@gmail.com, neu ffoniwch  07493355830

TAGGED:Gwylwrecsamwrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol Cyhoeddi contractwyr i drwsio ffordd yn Newbridge Cyhoeddi contractwyr i drwsio ffordd yn Newbridge
Erthygl nesaf scythe Dysgwch sut i bladuro eich blodau gwyllt yr haf hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Tattoo Cymru 2026
Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Arall Pobl a lle
Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English