Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dysgwch sut i bladuro eich blodau gwyllt yr haf hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dysgwch sut i bladuro eich blodau gwyllt yr haf hwn
Y cyngorArall

Dysgwch sut i bladuro eich blodau gwyllt yr haf hwn

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 28, 2023 4:22 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
scythe
RHANNU

Rydym yn cynnig hyfforddiant am ddim ar gyfer pladuro traddodiadol a thechnegau byrnu â llaw ar y ddôl y tu allan i Gae Chwarae Antur Dyffryn Gwenfro ddydd Iau, 13 Gorffennaf rhwng 10am a 2pm.

Mae yna nifer o fanteision yn ymwneud â’r ffurf hwn o reoli glaswelltir. Mae pladuro wedi bodoli ers cannoedd o flynyddoedd ac mae dal i fod yn un o’r dulliau mwyaf effeithlon o dorri gwair. Nid yn unig mae’n hynod o dawel ac yn eco-gyfeillgar; mae’n defnyddio grym dynol yn unig, sy’n ei wneud yn ymarfer gwych hefyd!

Mae angen cynnal dôl o flodau gwyllt yn flynyddol er mwyn galluogi i’r rhywogaethau mwyaf dymunol i ffynnu a lleihau egni’r rhywogaethau fwy cryf, felly bydd torri’r rhain rŵan yn helpu hynny. Mae torri’r blodau gwyllt yr adeg yma o’r flwyddyn yn helpu i gynnal cymysgedd amrywiol o flodau a gwair ac mae’n helpu iddynt ddychwelyd y flwyddyn nesaf.

Bydd lluniaeth ar gael, ond cofiwch ddod â phecyn bwyd efo chi hefyd.  Cafodd y ddôl ei chreu yn ystod y Prosiect Seilwaith Gwyrdd gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac mae wedi cael ei phladuro byth ers hynny, gan ei wneud yn lle perffaith ar gyfer diwrnod hyfforddi. Rydym wedi cael dyddiau pladuro ar y ddôl y tu allan i Gae Chwarae Antur Dyffryn Gwenfro am y 3 blynedd ddiwethaf bellach a hoffem ymestyn y dechneg hon i fwy o ardaloedd ar draws Wrecsam gan greu tîm o wirfoddolwyr hyfforddedig sy’n gallu cefnogi cymunedau ledled y sir.

Mae’r traddodiad o reoli dolydd gyda phladur yn mynd nôl i ddyddiau pan fyddai ffermydd a chymunedau yn helpu ac yn cefnogi ei gilydd gyda gwaith llaw yn y caeau.  Mae’r mannau agored o amgylch Wrecsam yn ardaloedd gwych i bobl fwynhau ac i fywyd gwyllt ffynnu.   Hoffai Cyngor Wrecsam annog mwy o bobl i gyfrannu at reoli eu mannau gwyrdd i ddatblygu cysylltiad gyda’r tir yn ogystal â chefnogi cymunedau i ddysgu mwy am gadwraeth natur.   Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Jacinta.challinor@wrexham

Rhannu
Erthygl flaenorol Gŵyl ‘Spirit’ Wrecsam Gŵyl ‘Spirit’ Wrecsam
Erthygl nesaf Trefoil Guild in Wrexham Goleuo Neuadd y Dref i ddathlu 80 mlynedd o’r Trefoil Guild

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English