Nod Tîm Atal Digartrefedd Ymysg Pobl Ifanc Wrecsam yw lleihau nifer y bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
Mae’r tîm yn cynnig cymorth i bobl ifanc sy’n cael problemau gyda’u llety, os oes yna anghytundebau o fewn teuluoedd neu berthnasoedd, os oes yna densiynau o fewn y cartref, os ydyn nhw’n defnyddio cyffuriau ac alcohol neu os ydyn nhw’n aros yn nhŷ ffrind.
Gall y tîm helpu drwy eu cefnogi i oresgyn y problemau hyn yn ogystal â’u cysylltu â gwasanaethau arbenigol.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Y nod yw rhoi cymorth i bobl cyn iddyn nhw fynd i argyfwng, gan geisio lleihau nifer y bobl ifanc sy’n mynd yn ddigartref. Mae’r tîm yn canolbwyntio ar bobl ifanc sydd mewn perygl mawr o fod yn ddigartref, ac yn gweithio gyda nhw i’w cadw o fewn cartref neu rwydwaith y teulu os yw hynny’n ddiogel iddyn nhw.
Beth all roi pobl ifanc mewn perygl o fod yn ddigartref?
- Peidio mynd i’r ysgol neu gael eu gwahardd
- Mynd yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol
- Rhedeg i ffwrdd neu beidio mynd adref gyda’r nos
- Camddefnyddio sylweddau
Beth allwch chi ei ddisgwyl gan y tîm?
- Cymorth a chyngor i’ch galluogi chi i wneud penderfyniadau gwybodus am eich ffordd o fyw
- Gwybodaeth ffeithiol a pherthnasol
- Cyfarfodydd mewn lleoedd sy’n addas i’r person ifanc
- Clust i wrando arnoch chi
Meddai Lucy Easton, Cydlynydd y Gwasanaeth Atal Digartrefedd Ymysg Pobl Ifanc, “Mae’r gwasanaeth hwn yn hanfodol i gymaint o bobl ifanc yn Wrecsam. Mae’n helpu lleihau nifer y bobl ifanc sy’n mynd yn ddigartref ac yn ceisio targedu achos eu problemau cyn iddyn nhw waethygu. Gall unrhyw berson ifanc rhwng 11 a 25 oed ddod atom ni i gael cymorth a chyngor, neu mae’n bosib i athro neu weithiwr proffesiynol arall eu cyfeirio nhw atom ni.”
Os nad ydych chi’n siŵr a all y tîm eich helpu chi, mae croeso i chi gysylltu ag un o’r tîm:
Canolfan y Fic, 13 Stryt yr Allt, Wrecsam, LL11 1SN
YHPS@wrexham.gov.uk / 01978317955
Mae yna weithiwr hefyd ar gael i’ch helpu chi yn y Siop Wybodaeth 4 diwrnod yr wythnos.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN