Yn gynharach y mis hwn, cynhaliodd ein Gwasanaeth Ieuenctid ddigwyddiad yn Neuadd Goffa Wrecsam i nodi 30 mlynedd o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn – cytundeb hawliau dynol rhyngwladol sy’n nodi hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, iechyd a diwylliannol plant.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal gyda chymorth Senedd yr Ifanc, Senedd Ieuenctid Wrecsam, a oedd eisiau dathlu 30 mlynedd y CCUHP – gan fod eu holl waith yn deillio o Erthygl 12 y Confensiwn, sy’n ei gwneud yn ofynnol i farn plant a phobl ifanc gael ei barchu, a bod ganddynt yr hawl i roi eu barn ar faterion sy’n eu heffeithio nhw.

Daeth nifer o sefydliadau i gymryd rhan yn y digwyddiad, gan gynnwys Cyngor Gofal Wrecsam, ein tîm Chwarae, Cwnsela Inside Out, Senedd Ieuenctid Cymru, Ambiwlans St John, Sgowtiaid, Guides a llawer mwy.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Roedd adloniant yn cynnwys hyfforddiant sgiliau syrcas gan y tîm Chwarae, yn ogystal â gweithdy triciau hud – a cherddoriaeth fyw gan Abstract.

Mynychodd mwy na 200 o bobl y noson a oedd am ddim.

Dywedodd Caroline Bennett, Cydlynydd Cyfranogiad Senedd yr Ifanc: “Gweithiodd Senedd yr Ifanc yn galed iawn, ac roedd y noson yn brawf o hynny – cawsom adborth arbennig a diolchiadau gan sefydliadau ac unigolion.

“Hoffai Senedd yr Ifanc ddiolch i bawb a fynychodd a chefnogodd y digwyddiad.”

Dywedodd Emma Jones, o Guides y Waun: “Diolch yn fawr i bawb a helpodd gyda’r digwyddiad hwn, cafodd y guides amser gwych. Hoffwn longyfarch Tricia, Caroline a phawb yn Senedd yr Ifanc.”

Dywedodd Donna Dickenson, Pennaeth Atal a Chymorth Cyngor Wrecsam: “Roedd yr awyrgylch yn ardderchog, ac roedd hi’n braf gweld pawb yn mwynhau.  Roedd yn ddathliad arbennig.

“Diolch yn fawr i Senedd yr Ifanc am eu gwaith caled- dylent fod yn falch iawn o’r digwyddiad. Am dîm gwych!”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

COFRESTRWCH FI RŴAN