GWYLIWCH: Dau ben yn well nag un – felly beth fydd 100,000 ohonom yn ei wneud?

Cynllun Lles. Beth yw hwnnw?

Ateb byr…. gwyliwch y fideo. Ateb hir…..darllenwch ymlaen 🙂

Y sgwrs fawr

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, anogwyd pobl leol i ddweud eu dweud ar y materion maen nhw’n credu sydd bwysicaf i Wrecsam.

O hwn, mae Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cynhyrchu ‘cynllun lles’ i bawb.

Mae’n canolbwyntio ar sut – os byddwn i gyd yn dod at ein gilydd dros yr 20 mlynedd nesaf – yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.

Beth yw Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus?

Mae Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus yn ffordd i sefydliadau yn Wrecsam rannu eu syniadau a gweithio gyda chymunedau lleol i wella pethau.

Mae’r aelodau yn cynnwys y cyngor, gwasanaethau brys, gwasanaethau iechyd lleol, prif sefydliadau addysgol a’r sector gwirfoddol.

Mae Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn edrych ar beth gall cymunedau, sefydliadau a phobl leol ei wneud i wneud pethau’n well.

Mae syniadau hyd yma yn cynnwys tyfu bwyd iachach, datblygu mwy o gyfleoedd gwirfoddoli, datblygu sgiliau bywyd i bobl ifanc a gwneud ein strydoedd yn fwy gwyrdd.

Gwyliwch y fideo!

Mae’r fideo byr hwn yn dangos pam bod cymaint ohonom mor falch o alw Wrecsam yn ‘gartref’.

Mae’n bum munud o hyd, ond mae’n werth ei wylio – gobeithio ei fod yn dangos y gorau o bwy ydyn ni, a’r hyn y byddwn yn ei gyflawni os ydym i gyd yn gweithio gyda’n gilydd.

Bydd yna fwy a mwy o ffyrdd i gyfrannu at y prosiect yn y dyfodol, felly byddwn yn eich hysbysu.

Mae’n ymwneud â rhoi ein pennau at ei gilydd i weithio allan sut y gallwn wneud Wrecsam y gorau y gall fod….i bawb.

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

COFIWCH EICH BINIAU