Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwyliwch fod yr adeiladau yn dod i lawr wrth i waith gwella ddechrau ar ystad cyngor…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Dementia
Gweithdai cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia – cadwch eich lle!
Digwyddiadau
Voices make change
11-25 oed? Lleisiau’n Creu Newid
Pobl a lle
Road
Helpwch i gadw ffyrdd yn fwy diogel – dywedwch eich dweud!
Pobl a lle
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch "Fix It Feb" Caffi Trwsio Cymru
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gwyliwch fod yr adeiladau yn dod i lawr wrth i waith gwella ddechrau ar ystad cyngor…
Pobl a lleY cyngor

Gwyliwch fod yr adeiladau yn dod i lawr wrth i waith gwella ddechrau ar ystad cyngor…

Diweddarwyd diwethaf: 2017/11/14 at 2:44 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Gwyliwch fod yr adeiladau yn dod i lawr wrth i waith gwella ddechrau ar ystad cyngor...
RHANNU

Mae tai amhoblogaidd ar ystâd cyngor lleol wedi’u dymchwel fel rhan o brosiect moderneiddio sylweddol.

Cynnwys
Cynlluniau ar gyfer y dyfodolTrawsnewid yr ystadCyfnod cadarnhaol i dai cymdeithasol yn WrecsamMiloedd o gartrefi wedi’u moderneiddio eisoes

Mae 22 eiddo’r cyngor yn ardaloedd Peris a Gwynant o Blas Madoc wedi mynd am byth, ac mae’r tir oedd o dan wedi’i lefelu, yn barod ar gyfer datblygiadau newydd posibl.

Mae’r dymchwel yn nodi dechrau prosiect a fydd o bosibl yn gweld pob math o ddatblygiadau a gyflawnwyd ar yr amgylchedd a thirwedd yr ystâd.

Bydd hyn o bosibl yn cynnwys mwy o fannau parcio ar gyfer tenantiaid presennol, mannau cyhoeddus wedi’u hail-ddylunio, gerddi estynedig i dai presennol a thai newydd.

Edrychwch ar ein fideo o’r dymchwel:

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=TOU5xprQHe8]

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae 400 o dai “cubbitt” ffrâm dur ar yr ystâd yn cael gwaith ail-doi ac Inswleiddiad Wal Allanol fel rhan o’r gwaith gwella, gyda gwaith ar rai eiddo yn cael eu cyflawni’n barod, i ddechrau yn yr wythnosau nesaf.

Mae’r gwaith wedi’i wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru erbyn 2020.

Trawsnewid yr ystad

Dywedodd yr Aelod Lleol ar gyfer Plas Madoc, Cyng Paul Blackwell: “Rwy’n falch o weld bod y gwaith gwella ar yr ystâd wedi dechrau bellach. Roedd yr eiddo yr ydym wedi’u dymchwel yn amhoblogaidd ac yn anodd eu prydlesu, yn rhannol oherwydd eu bod mewn ardal o’r ystâd lle’r oedd nifer o dai wedi cael eu hadeiladu’n agos iawn at ei gilydd.

“Mae’r gwaith dymchwel wedi agor mannau gwag newydd ar yr ystâd ac mae’n eithaf rhyfeddol gweld pa mor wahanol y mae’n edrych yn awr. Mae mwy o le i anadlu ar gyfer y tenantiaid presennol yn yr ardaloedd hynny, ac mae hefyd yn golygu y gallwn symud ymlaen â gwaith gwella arall sydd wedi’u cynllunio ar gyfer yr ystâd.”

“Mae’r gwaith yr ydym yn ei gyflawni i gyrraedd y Safon Ansawdd Tai Cymru wedi rhoi cyfle i ni edrych ar Plas Madoc ar y cyfan, a gweld os oes pethau y gallwn eu gwneud a fydd o fantais i’r ystâd gyfan yn ogystal â chartrefi unigol eu hunain.

“Mae gwaith o’r raddfa hwn yn anochel wedi cyflwyno rhai heriau, ond rwy’n falch o ddweud bod y gwaith dymchwel wedi mynd rhagddo’n dda, a bydd y cam nesaf o’r prosiect, y gwaith Inswleiddio Wal Allanol yn cael ei wneud, i ddechrau yn yr wythnosau nesaf. Yn ogystal ag effeithlonrwydd ynni a manteision strwythurol, bydd gosod Inswleiddiad Wal Allanol yn trawsnewid golwg yr ystâd ac yn helpu i’w gwneud yn addas i’r dyfodol.”

“Rydym wedi cyflawni nifer o ymarferion ymgynghori eisoes gyda thenantiaid a phreswylwyr lleol, gan gynnwys digwyddiadau gwybodaeth yn y ganolfan hamdden leol. Byddwn yn parhau i sicrhau ein bod yn ymgysylltu â’r gymuned leol fel mae’r gwaith yn datblygu.”

Cyfnod cadarnhaol i dai cymdeithasol yn Wrecsam

Mae buddsoddiad £56.4m, y swm mwyaf erioed, yn y gwaith gwella yn 2017/18. Mae hyn yn cynnwys grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr £7.5m y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol i’w cefnogi i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.

Mae tai’r Cyngor yn cael gwaith gwelliannau megis ceginau ac ystafelloedd ymolchi, systemau gwres canolog ac ail wifro trydanol, os bydd angen i fodloni’r safon newydd. Mae gwelliannau allanol gan gynnwys i doi, llwybrau gerddi, ffensys a waliau yn cael eu cyflawni hefyd os bydd angen.

Miloedd o gartrefi wedi’u moderneiddio eisoes

Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Mae’n gyfnod cadarnhaol a chyffrous i dai cymdeithasol yn Wrecsam. Rydym yn rheoli dros 11,000 o eiddo o bob siâp, oedran a meintiau, felly mi roedd prosiect o’r maint hwn am gyflwyno heriau a rhwystrau i’w goresgyn, ond rwy’n falch o ddweud ein bod ar y trywydd iawn i fodloni’r safon. Rydym wedi cyflawni llawer iawn o waith yn barod ar filoedd o eiddo ar draws y fwrdeistref sirol.

“Mae hyn ynghylch sicrhau bod ein holl denantiaid yn gallu byw mewn eiddo sydd yn fodern, effeithlon, cyfforddus, diogel ac yn addas i’r dyfodol, a byddwn yn parhau i wneud ein gorau i sicrhau bod ansawdd y gwaith yn parhau yn uchel ar draws y bwrdd.”
Cewch ragor o wybodaeth am Safon Ansawdd Tai Cymru ar ein gwefan.

Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Helpwch Dioddefwyr o Gaethwasiaeth Fodern Helpwch Dioddefwyr o Gaethwasiaeth Fodern
Erthygl nesaf Cofroddion Newydd i Ddathlu Atgofion Arbennig o Wrecsam Cofroddion Newydd i Ddathlu Atgofion Arbennig o Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg Chwefror 20, 2026
Dementia
Gweithdai cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia – cadwch eich lle!
Digwyddiadau Chwefror 20, 2026
Voices make change
11-25 oed? Lleisiau’n Creu Newid
Pobl a lle Chwefror 19, 2026
Road
Helpwch i gadw ffyrdd yn fwy diogel – dywedwch eich dweud!
Pobl a lle Chwefror 16, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Voices make change
Pobl a lle

11-25 oed? Lleisiau’n Creu Newid

Chwefror 19, 2026
Road
Pobl a lle

Helpwch i gadw ffyrdd yn fwy diogel – dywedwch eich dweud!

Chwefror 16, 2026
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch "Fix It Feb" Caffi Trwsio Cymru
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru

Chwefror 13, 2026
Heart tree - love your environment this Valentine's Day
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Sut y gallwch chi garu’ch amgylchedd ar Ddydd Sain Folant (14 Chwefror)

Chwefror 13, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English