Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Helpwch Dioddefwyr o Gaethwasiaeth Fodern
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Helpwch Dioddefwyr o Gaethwasiaeth Fodern
Pobl a lle

Helpwch Dioddefwyr o Gaethwasiaeth Fodern

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 15, 2017 12:25 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Helpwch Dioddefwyr o Gaethwasiaeth Fodern
RHANNU

Mae’r darn hwn wedi’i ysgrifennu yn rhan o gyfres o ddatganiadau ar gyfer Wythnos Ddiogelu Genedlaethol 2017.

Gan ei fod mor guddiedig ac yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig ac y tu allan i’r meysydd y gall awdurdodau traddodiadol eu cyrraedd, gall graddfa caethwasiaeth fodern fod yn anodd ei fesur.

Mae adroddiad y Swyddfa Gartref (dolen gyswllt i adroddiad Saesneg) yn nodi yn ôl yr amcangyfrif gorau presennol mae yna rhwng 10,000 a 13,000 o ddioddefwyr posibl o gaethwasiaeth fodern yn y DU yn 2013.

Tra bod llywodraethau cenedlaethol, datganoledig a lleol yn cydweithio â heddluoedd i geisio mynd i’r afael â’r broblem, nid oes modd iddo weithio heb gyfraniad y cyhoedd.

DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

Un o’r materion rydym ni’n edrych arno yn ystod Wythnos Ddiogelu Genedlaethol ydi caethwasiaeth fodern, a beth allech chi ei wneud i helpu.

Gall caethwasiaeth fodern ddigwydd ar sawl ffurf gan amrywio o lafur gorfodol i fod yn gaeth i ddyled, neu o fasnachu pobl i briodi plentyn.

Yn aml mae dioddefwyr o’r math yma o fygythiad eisoes yn bobl ddiamddiffyn a allai fod yn delio â bod yn gaeth i alcohol neu gyffuriau, yn dioddef o salwch meddwl neu wedi cael eu cludo i’r DU gan fasnachwyr pobl.

Gall pobl sy’n byw ar y strydoedd hefyd fod yn dargedau hawdd i bobl sydd yn rhedeg gweithredoedd caethwasiaeth, oherwydd fe allant gael eu cymell i lafur gorfodol gyda’r addewid o gael to uwch eu pen.

Mae pob achos o gaethwasiaeth fodern wedi’i guddio’n dda, ac mae’r rheini sy’n gyfrifol amdano fel arfer yn gwybod sut i’w guddio.

Maent yn glyfar iawn hefyd gan eu bod yn targedu’r bobl sydd ddim fel rheol yn ymgysylltu â gwasanaethau arferol – megis cynghorau lleol neu’r heddlu.

Mae hi mor bwysig felly os ydych chi’n sylwi ar unrhyw beth amheus a allai fod yn gysylltiedig â digwyddiad o gaethwasiaeth eich bod yn dweud wrth yr awdurdodau.

Fe wyddom ni nad ydi pobl yn hoffi teimlo eu bod yn gwneud ffws am ddim byd, neu’n busnesa ym mywyd rhywun arall.

Fe allent hefyd deimlo eu bod mewn perygl personol petaent yn rhoi gwybod i’r awdurdodau am fater megis caethwasiaeth.

Fodd bynnag mae angen cudd-wybodaeth gan aelodau o’r cyhoedd sydd yn fodlon dweud wrth awdurdodau megis yr heddlu er mwyn iddynt allu ymchwilio a dechrau mynd i’r afael â’r broblem.

Peidiwch â theimlo’n wael am gyflwyno gwybodaeth – fe allai’r wybodaeth rydych chi’n ei ddarparu helpu dioddefwyr o gaethwasiaeth i fynd nôl i fyw eu bywyd â’r urddas y maent yn ei haeddu.

Os oes gennych unrhyw beth i’w adrodd amdano, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 (999 mewn argyfwng) neu Gyngor Wrecsam – naill ai Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar 01978 292066, neu Gofal Cymdeithasol i Blant ar 01978 292039, yn dibynnu ar y digwyddiad.

Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DYWEDWCH EICH DWEUD[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://newyddion.wrecsam.gov.uk”]GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Addysg – dywedwch wrthym sut i arbed arian! Addysg – dywedwch wrthym sut i arbed arian!
Erthygl nesaf Gwyliwch fod yr adeiladau yn dod i lawr wrth i waith gwella ddechrau ar ystad cyngor... Gwyliwch fod yr adeiladau yn dod i lawr wrth i waith gwella ddechrau ar ystad cyngor…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English