Ydych chi wedi derbyn neges destun yn dweud eich bod wedi talu gormod o Dreth y Cyngor?
Mae’n ddrwg gennym ddweud nad ydynt yn rhai go iawn.
Rydym yn gwybod bod unrhyw beth sy’n dweud eich bod wedi talu gormod o Dreth y Cyngor yn gallu ymddangos yn atyniadol, a gall fod yn demtasiwn dilyn negeseuon o’r fath.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Rydym wedi clywed gan aelod o’r cyhoedd yn ddiweddar yn ein hysbysu eu bod wedi derbyn neges destun yn dweud bod eu cyfrif mewn credyd – ac i glicio ar ddolen o fewn y neges i’w hawlio yn ôl.
Yn ffodus, roeddent yn gwybod yn well na chlicio ar y ddolen a gwnaethant gysylltu â ni.
Ond os byddent wedi clicio ar y ddolen, does dim amheuaeth y byddai wedi mynd â nhw i dudalen yn gofyn am eu manylion banc – fyddai wedi mynd yn syth i’r twyllwyr y tu ôl i’r cynllun.
Yn syml – nid ydym yn anfon negeseuon testun at drigolion am Dreth y Cyngor.
Felly, gallwch fod yn dawel eich meddwl bod unrhyw neges destun sy’n dweud wrthych eich bod wedi talu gormod o Dreth y Cyngor yn amheus.
Fel gydag unrhyw dwyll, dylech ystyried ambell reol syml –
Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni, peidiwch byth â rhoi unrhyw fanylion – fel cyfrineiriau neu rif cyfrif banc – a chofiwch fod gennych hawl i anwybyddu unrhyw negeseuon amheus.
Ond beth os byddaf yn meddwl fy mod mewn credyd?
Os ydych yn meddwl eich bod mewn credyd gyda’ch cyfrif Treth y Cyngor, mae yna ffordd syml iawn i wybod.
Ffoniwch ein llinell gymorth ariannol ar 01978 298992 neu e-bost counciltax@wrexham.gov.uk. Byddant yn hapus iawn i wirio eich cyfrif a rhoi unrhyw gymorth rydych ei angen.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION