Fel rhan o Diwrnod Hawliau Gofalwyr, fe holom ofalwyr ifanc yn Wrecsam ynglŷn â’r bobl maent yn gofalu amdanynt a sut beth ydi bywyd fel gofalwr ifanc.
Mae WCD Young Carers yn credu bod pob gofalwr ifanc yn anhygoel ac maent yn eu hatgoffa nhw o hynny. Mae eu cefnogaeth wedi’i theilwra, yn cynnwys clybiau seibiant bob pythefnos i wahanol grwpiau oedran, teithiau a gweithgareddau dros wyliau’r ysgol, cefnogaeth un-i-un yn ystod amseroedd anodd, eiriolaeth a chodi ymwybyddiaeth mewn ysgolion/colegau a’r gymuned hefyd.
Fe ddewch chi o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan WCD Young Carers.
Trawsgrifiad
Am bwy ydych chi’n gofalu, a sut beth ydi bywyd fel gofalwr ifanc?
Gofalwr ifanc 1: Fe ddechreuais i fod yn ofalwr ifanc â’r sefydliad ddwy flynedd yn ôl, ond rydw i wedi bod yn gofalu am amryw aelodau o’r teulu ers – ddywedwn i – ryw chwe blynedd.
Am y chwe blynedd diwethaf rydw i wedi gofalu am Nain a Taid yn bennaf, pan oedden nhw’n sâl iawn.
Ond yn y ddwy flynedd diwethaf rydw i wedi gofalu am fwy o aelodau o’r teulu – dwi’n helpu Dad efo fy mrodyr a chwiorydd, a hefyd yn helpu Dad gyda’i iechyd meddwl.
Gofalwr ifanc 2: Rydw i’n gofalu am Mam – mae hi wedi cofrestru’n anabl ac mae ganddi diabetes. Mae fy ngwaith gofalu’n cynnwys mynd i nôl ei moddion pan mae hi’n methu â dod allan o’r gwely, neu pan mae hi’n sâl.
Dw i’n gwneud tipyn o godi pethau trwm hefyd – pethau syml fel mynd â hŵfyr i fyny ac i lawr y grisiau, ond mae’n waith.
Gofalwr ifanc 3: Rydw i’n gofalu am fy nghefndryd a chyfnitherod gan fod un ohonynt ag awtistiaeth ac un arall ag asma.
Gofalwr ifanc 4: Felly, dw i’n gofalu am Mam. Mae ganddi anhwylder niwro-weithredol ac mae tro o’r disgiau yn ei hasgwrn cefn o’u lle ar hyn o bryd. Mae’n achosi llawer o broblemau iddi.
Pa fath o bethau ydych chi’n eu gwneud i helpu?
Gofalwr ifanc 1: Mae’n waith mwy corfforol efo Nain a Taid, mae Nain mewn cadair olwyn ac felly dw i’n ei helpu i fynd i siopa. Dw i’n ei helpu efo coginio a golchi dillad ac ati.
Efo Dad, mae’n fwy o fater o gefnogi a bod yn sicr nad ydi o’n gorfod gwneud pob dim ar ei ben ei hun.
Ac efo fy mrawd a chwaer, mae’n fwy o bethau dydd i ddydd – yr ysgol, a rhoi cefnogaeth emosiynol yn gyffredinol.
Gofalwr ifanc 2: Pan oeddwn i’n iau roeddwn i’n gofalu am Mam, a fy chwaer hefyd mewn gwirionedd, gan ei bod hi mewn ysbyty seiciatryddol.
Ond bryd hynny, roedd yn ymwneud mwy ag anghenion emosiynol yn hytrach na chorfforol, gan nad oedd Mam wedi cael diagnosis o diabetes na’i chofrestru’n anabl eto.
Felly roedd o’n ymwneud mwy ag iechyd meddwl, ac roedd pawb yn dibynnu arna i i fod yn blentyn hapus oedd yn codi calonnau pawb, ond erbyn hyn – fel ddywedais i – tydw i ddim yn gofalu am fy chwaer mwyach gan ei bod hi wedi dod allan o’r ysbyty.
Mae gan Mam amryw broblemau, ac yn dal yn cael trafferth â’i hiechyd meddwl, ond mae hi bellach wedi cofrestru’n anabl ac mae ganddi diabetes, felly mae rhai pethau wedi newid yn llwyr ond mae pethau eraill wedi aros yr un fath.
Gofalwr ifanc 3: Pan dwi gartref, rydw i’n mynd i weld fy modryb, fel dwi’n gwneud heddiw, yn mynd i warchod.
Gofalwr ifanc 4: Dwi’n helpu i ofalu am y cŵn. Dwi’n helpu â chymaint o bethau bach ag y medra i, i fod yn gymorth o gwmpas y lle.
Fel arfer mae’n golygu codi pethau sy’n agos at y llawr, i helpu Mam.
Cynnal digwyddiad y Rhuban Gwyn yn Wrecsam – Newyddion Cyngor Wrecsam