Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut all Dewis eich helpu chi? Dysgwch fwy yma…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Sut all Dewis eich helpu chi? Dysgwch fwy yma…
Pobl a lle

Sut all Dewis eich helpu chi? Dysgwch fwy yma…

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 21, 2024 4:52 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Dewis is a free online resource designed to make information about local services available to the public to promote individual wellbeing.
RHANNU

Os ydych am gael gwybodaeth neu gyngor ar eich iechyd a’ch lles neu os ydych am wybod sut y gallwch helpu rhywun arall, yna Dewis ydi’r lle i chi.

Adnodd ar-lein am ddim yw Dewis sydd wedi’i ddylunio er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am wasanaethau lleol ar gael i’r cyhoedd er mwyn hyrwyddo lles unigolyn. 

Mae’n cynnwys cymorth a chefnogaeth ymarferol, yn cynnwys grwpiau cymunedol, gweithgareddau, digwyddiadau, gwasanaethau lleol a sefydliadau cenedlaethol.  Gall aelodau o’r cyhoedd chwilio am destun sy’n berthnasol iddynt a dod o hyd i restr gynhwysfawr o wasanaethau lleol a chenedlaethol sydd yn bodloni eu hanghenion lles orau. 

Gallwch ddefnyddio Dewis yn Gymraeg a Saesneg.

Mae’r tîm yng Ngwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam wedi bod yn gweithio’n galed i gynyddu’r nifer o wasanaethau yn Wrecsam sydd â gwybodaeth amdanynt ar Dewis, ac rydym ni’n meddwl y byddwch chi’n falch o’r nifer o wasanaethau newydd sydd bellach ar gael yno.

O’r hafan, teipiwch yr hyn rydych chi’n chwilio amdano, ynghyd â’ch cod post a chliciwch ar ‘Chwilio nawr’ i ddod o hyd i restr o wasanaethau lleol i’ch helpu chi.

Dyma rai argymhellion er mwyn chwilio ar Dewis:

  • Meddyliwch am y geiriau chwilio rydych chi’n eu defnyddio.  Er enghraifft, os na allwch chi ddod o hyd i wasanaethau ‘cyfeillio’ rhowch gynnig ar air arall, megis ‘cyfeillgarwch’ neu ‘cwmnïaeth’.
  • Os dydych chi dal methu dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, yna ‘Mireiniwch eich chwiliad’ er mwyn canolbwyntio ar gategori, lleoliad neu bellter penodol o’ch cod post yr ydych wedi’i nodi.
  • Er mwyn chwilio am gategori penodol ar Dewis, cliciwch ar ‘Chwiliwch yn fanylach’ o dan y botwm ‘Chwilio nawr’ ar yr hafan, ac yna fe allwch chi ddewis categori o’ch dewis chi. 

Mae yna ystod eang o gategorïau i’w harchwilio, megis cyfleoedd dydd i oedolion, cysylltwyr cymunedol/ presgripsiynu cymdeithasol, gwasanaethau llyfrgell, digwyddiadau a llawer mwy.

Tarwch olwg ar yr enghraifft yma o ddolen categori byw ar gyfer gwasanaethau sydd yn darparu cefnogaeth iechyd meddwl yn Wrecsam.

Gan eu bod yn ddolenni byw, bydd y wybodaeth yn parhau i gael ei diweddaru wrth i’r wybodaeth newid ar Dewis.

Mae gan Dewis yn Wrecsam dudalen Facebook hefyd gydag argymhellion ychwanegol ynglŷn â sut i fanteisio ar y cyfeiriadur gwasanaeth ar-lein. Tarwch olwg arno drwy glirio ar y dolenni canlynol i gael mynediad at y tudalennau Cymraeg a Saesneg:

  • Dewis Wrecsam
  • Dewis Wrexham

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am Dewis, gallwch e-bostio dewis@wrexham.gov.uk

Gwneud cais am gerdyn bws – yr hyn sydd angen i chi ei wybod – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwyliwch: Sut beth ydi bywyd fel gofalwr ifanc? Gwyliwch: Sut beth ydi bywyd fel gofalwr ifanc?
Erthygl nesaf young carers Cyngor Wrecsam yn arwyddo Cyfamod Gofalwyr Ifanc

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam

Medi 29, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English