Os ydych chi neu rywun rydych yn gofalu amdanynt yn cael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol, gallwch wneud cais am Daliadau Uniongyrchol. Mae’r rhain yn gadael i chi ddewis a phrynu’r gwasanaethau rydych eu hangen eich hun, yn hytrach na’u derbyn gennym ni.
Sut mae Taliadau Uniongyrchol yn gweithio?
Os ydych chi’n cael asesiad gan y gwasanaethau cymdeithasol a bod angen gofal a chefnogaeth arnoch, yn hytrach na darparu’r gwasanaeth i chi, gallwn roi’r arian i chi, i brynu eich gwasanaethau eich hun.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Sut all Taliadau Uniongyrchol fy helpu i?
Gallant eich helpu chi mewn sawl ffordd, sy’n eich rhoi chi mewn rheolaeth lawn o sut mae eich gofal a’ch cefnogaeth yn cael ei ddarparu i chi.
Bydd y taliadau hefyd yn eich galluogi i fod yn fwy annibynnol a galwch recriwtio eich Cynorthwyydd Personol eich hun yn hytrach na phwy bynnag sy’n cael ei anfon i chi. Gallwch drefnu bod eich gofal yn cael ei ddarparu ar wahanol amseroedd sy’n addas i beth rydych eisiau gwneud.
Gallwch ddewis defnyddio eich taliadau uniongyrchol i fynd i wahanol weithgareddau yn y gymuned hyd yn oed.
Gellir defnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer cefnogaeth gofal personol yn eich cartref neu fel eich bod yn gallu mynd i weithgareddau neu ddefnyddio cyfleusterau yn eich cymuned leol. Gallwch fodloni rhan o’ch anghenion asesedig, neu yr anghenion gyd gan ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol.
Mae’n rhaid rheoli’r taliadau yn ddiogel ac yn gyfrifol ac mae’n rhaid iddynt gyflawni’r canlyniadau a nodir yn eich cynllun gofal a chymorth, sydd wedi’u cytuno gydag eich ymarferydd gofal cymdeithasol.
Ychydig yn gymhleth?
Peidiwch â phoeni! Mae llwyth o gymorth a chyngor ar gael i fynd â chi drwy pob cam o’r broses i’w wneud mor hawdd â phosibl i chi.
Ydych chi eisiau gwybod mwy?
Os oes gennych ddiddordeb ac eisoes yn derbyn gwasanaethau gennym, trefnwch sgwrs gyda’ch ymarferydd gwaith cymdeithasol a fydd ar gael i’ch cynghori ar y dewisiadau gorau a sut i wneud cais.
Os nad ydych yn derbyn gwasanaeth, gallwch gysylltu â gwasanaethau cymdeithasol a gofyn am asesiad o’ch anghenion, neu os hoffech chi ganfod rhagor am sut y gallai Taliadau Uniongyrchol weithio i chi, cysylltwch â ni:
- 01978 292066
- Contact-us@wrexham.gov.uk
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN