Trawsgrifiad o Gyfweliad Sally Lindsay
LG: Helo bawb. Luke sydd yma eto ar gyfer Wythnos Gweithredu Dementia a dwi wrth fy modd yn gallu dweud fod gennym ni westai gwych ar bennod wythnos yma. Mae hi’n un o’r bobl hynny nad oes angen llawer o gyflwyniad gan ei bod yn eicon, ond i’r rheini ohonoch sydd angen proc i’r cof, fe weithiodd fel rhan o’r cast enwog yn “Still Open All Hours” fel Kath Agnew. Ar yr adegau pan nad ydi hi’n teithio ac yn dangos penwythnosau crand i ni, mae hi hefyd yn datrys dirgelion fel y ditectif newydd yn “The Madame Blanc Mysteries”. Mae’n bleser gen i gyflwyno Mrs Sally Lindsay i chi, helo Sally.
SL: Helo cariad, sut wyt ti?
LG: Dwi ar ben fy nigon heddiw, sut wyt ti?
SL: Grêt, ydw grêt.
LG: Mae’n bleser dy gael di yma a diolch i ti am dy amser heddiw. Pwrpas y gyfres yma rydym ni’n hoffi ei ddweud ydi os ydych chi wedi cyfarfod un person sy’n byw gyda dementia, rydych chi wedi cyfarfod un person sy’n byw gyda dementia, ac i brofi hyn gyda’r gyfres yma, dwi’n mynd i ofyn yr un tri chwestiwn i bump person i ddangos pa mor wahanol ydi’u hatebion. Gyda hynny mewn golwg, elli di ddweud wrthym ni beth yw dy gyfraniad a dy stori gyda dementia os gweli di’n dda?
SL: Wel, mae’n un hir. Pan oeddwn i…ellai ddim cofio rŵan. Dwi’n meddwl tua 14, 15 oed, fy nain roeddwn i’n agos iawn ati hi, felly roedd hyn amser maith yn ôl. Rydw i’n 49 eleni, roedd yn ddiagnosis cynnar iawn ar gyfer clefyd Alzheimer, un o’r cyntaf a dweud y gwir, a dwi’n meddwl bod hynny yn y nawdegau cynnar. Fe ddirywiodd hi’n gyflym iawn o fod yn fatriarch digrif, anhygoel o’r Gogledd. Gan nain dwi’n cael fy llinellau gorau, roedd hi’n wych ac yn helpu llawer yn y gymuned. Fe weithiodd, roedd hi dal i weithio, dwi’n meddwl ei bod hi tua 65 pan gafodd hi o a dwi’n meddwl e fod o’n ofnadwy adeg hynny gan nad oedd yna gefnogaeth. Nid oedd yna unrhyw help. Nid oedd yna linellau ffôn, dim ymwybyddiaeth, dim byd. Doeddem ni ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd. Fe gafodd hi “Dementia Henaidd”, fel maen nhw’n ei alw o, megis diarhebion ac fe aeth hi i gael seibiant yn ystod y dydd ond doedden nhw methu ymdopi â hi am fod ganddi anghenion gwahanol ac roedd o’n eithaf dychrynllyd a dweud y gwir. O’r hyn a ddigwyddodd a gweld sut y gwnaethom ni ymdopi, nad oedd yn dda iawn, ond fe wnaethom ni’n gorau. Pan ymunais i â “Coronation Street” a chael proffil uchel, fe gysylltodd Cymdeithas Alzheimer’s gan fy mod wedi siarad amdani mewn cyfweliad. Roedd hynny yn 2001. Felly, dwi wedi bod yn Llysgennad i Gymdeithas Alzheimer’s ers hynny, felly mae hi’n un mlynedd ar hugain. Rydw i wedi bod yn weithgar iawn yn y datblygiad, ac mae’r datblygiad at rŵan fel ti’n gwybod dy hun Luke, wedi bod yn anhygoel, mae gennym ni lawer i’w ddathlu. Mae’r hyn sy’n digwydd yn gadarnhaol iawn, dyna sydd wedi digwydd. Felly dyna fy nghyfranogiad i, roedd ar gyfer fy nain, felly bob tro roeddwn i’n gweithio i Gymdeithas Alzheimer’s, bob tro rydw i’n gwneud cyfweliad, bob tro rydw i’n gwneud taith gerdded, mae er cof amdani hi a faint y dioddefodd hi a faint nad oes rhaid ichi bellach, a dyna fy nghyfranogiad i.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
LG: Mae hynny’n wych ac allan o rywbeth mor drist, rwyt ti wedi bod mor gadarnhaol bob amser, ac mae’n ysbrydoledig yn ogystal, ac yn hyfryd fod gennym ni rywun fel ti i barhau â’r neges. Fe soniais di amdano’n sydyn gynnau, gan fy arwain yn dwt at y cwestiwn nesaf. Fe sonies di am ddiffyg ymwybyddiaeth pan gafodd hi’r diagnosis gyntaf. Gyda hynny mewn golwg, pa mor bwysig wyt ti’n meddwl ydi digwyddiadau ac ymgyrchoedd fel Wythnos Gweithredu Dementia a sesiynau ymwybyddiaeth dementia yn y gymuned y dyddiau hyn?
SL: Wel, rydw i bob amser yn disgrifio Alzheimer, mathau eraill o ddementia, fel tswnami yn taro’r wlad yma ac yn debyg i’r ffordd y sylweddolodd pobl am ganser yn y chwedegau, saithdegau, roedd pawb yn ei gael o. Mae wedi bod yn digwydd ers erioed ond mwyaf sydyn mae pawb yn ymwybodol bod rhai aelodau’r teulu nid yn unig yn heneiddio ond yn colli arni. A dweud y gwir, afiechyd ar yr ymennydd ydi o. Mae’n ymwneud â therfynau nerfau, mae’n ymwneud â sut mae’r ymennydd wedi’i osod. Nid “mae rhywun yn heneiddio” yn unig dwi’n feddwl. Dwi ‘di agor canolfannau i bobl fy oedran i ac yn iau sydd â dementia cynnar. Nid mater i bobl hŷn yn bennaf ydi hyn, ond mae’n broblem y bydd un ohonom yn adnabod un person gyda dementia y dyddiau ‘ma. Yn yr un modd rydym ni’n adnabod rhywun sydd â chanser, rydym ni’n adnabod rhywun sydd â dementia, a fy nghenhadaeth i, neu genhadaeth Cymdeithas Alzheimer’s ac elusennau dementia eraill ydi gwthio’r proffil i fyny mor uchel ag ydi ymwybyddiaeth canser. Yn amlwg mae ymwybyddiaeth canser yn hynod bwysig ac yn anffodus mae aelodau o fy nheulu i wedi marw o’r afiechyd hwnnw hefyd, ond gyda Alzheimer’s yn benodol, mae angen i ni godi ymwybyddiaeth ac rydym ni’n gwneud hynny, ymwybyddiaeth fod yna obaith ar gael. Mae yna gyffuriau sydd yn gallu helpu. Mae yna gymunedau sydd yn gallu helpu. Ymwybyddiaeth nad oes rhaid i chi fod ar eich pen eich hun. Fe allwch chi godi’r ffôn ac fe allwch chi ffonio rhywun a dweud “’Dwi allan o fy nyfnder yma, ‘dwi’m yn gwybod beth sy’n digwydd” gan ei fod yn afiechyd heriol tu hwnt i ofalu amdano pan rydych chi’n ofalwr ac yn deulu, rydw i’n ei ddisgrifio fel gweld rhywun a’u hatgof yn diflannu diwrnod ar ôl diwrnod. Felly mae’n rhaid i chi reoli hynny mewn ffordd a chodi ymwybyddiaeth a dweud bod yna rywun sydd yn gallu helpu. Mae hynny’n gwella a dwi’n meddwl bod hynny’n digwydd un dydd ar y tro gyda phethau fel wythnos dementia a theithiau cerdded Alzheimer a’r pethau rydym ni’n eu gwneud. O ran y rhai ar y teledu, nid fi yn unig sydd wrthi, mae yna griw yn y diwydiant sydd yn siarad am Alzheimer’s yn gyson. Mae yna blatfform ymwybyddiaeth. Pan ddaw’r diagnosis, maent yn gwybod bod ganddynt rywle i fynd.
LG: Yn bendant, ac fe ddwedes di yn wych, mae pethau’n newid ac mae hynny’n beth da. Peth arall mae rhywun fel fi’n hoffi ei wneud pan fyddwn ni’n mynd allan i siarad gyda’r gymuned, rydym ni’n hoffi cael y bobl yma yn y sesiynau i feddwl am weithred gadarnhaol i’r rhai sy’n byw gyda dementia i wneud eu bywyd yn haws. Felly y cwestiwn olaf i ti fyddai, i’r rhai sy’n gwylio adref a phetai ti mewn sefyllfa o gyflwyno sesiwn, beth fyddet ti’n ei argymell fyddai dy weithred gadarnhaol?
SL: Mae’n gwestiwn diddorol iawn. Mae yna lawer o ddatrysiadau dros y blynyddoedd ond un o’r rhai a gafodd yr effaith fwyaf arna i oedd angor canolfan dementia mewn adain ysbyty yn Lerpwl. Rydw i wedi bod yn mynd o amgylch y wlad yn gwneud hyn ers nifer o flynyddoedd. Gyda mathau penodol o ddementia, rydych chi’n colli eich cof tymor byr i ddechrau. Mae eich cof hir dymor yn eithaf iach. Yr hyn oedd yn anhygoel am y lle yma oedd bod y ward cyfan wedi’i addurno fel cyfnod o’r gorffennol. Felly roedd yna hen luniau, roedd yna arosfan bws o’r hen ddyddiau. Roedd yna rywbeth oedd yn ymarfer y meddwl oedd dal yno. Yn ôl y sôn, fe newidiodd y cleifion dros nos. Roedd yna gerddoriaeth o’r cyfnod y byddent yn ei gofio pan oedd yr ymennydd dal i weithio, cerddoriaeth o’r pumdegau neu bedwardegau. Dyna’r math o beth dwi’n meddwl oedd yn eithriadol o gadarnhaol. Felly pan es i allan i’r lleoliad yna fe effeithiodd arna i. Wrth gwrs dydyn ni ddim yn gweld y rhannau o’r ymennydd sydd yn marw ond rydym ni’n canolbwyntio ar y rhannau o’r ymennydd sydd dal yn fyw. Yn amlwg yn y camau olaf, nid yw hynny’n opsiwn, ond mae bendant yn opsiwn yn y camau cynnar. Felly, mi faswn i’n annog pobl, a’r peth cyntaf y baswn i’n annog unrhyw un sy’n cael y diagnosis cyntaf yw ffonio llinell gymorth, yn syml, ffoniwch linell gymorth. Peidiwch â bod ofn, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Fe gewch chi daflen wybodaeth, peidiwch â bod ofn ei ddefnyddio, ffoniwch linell gymorth achos rydych chi angen rhywun, rydych chi angen cymorth, rydych chi angen bod mewn cymuned. Mae angen i chi fynd i gaffi dementia, mae angen i chi siarad am eich anwylyn roeddech chi’n ei addoli ond sydd yn berson ychydig yn wahanol erbyn hyn. Mae hynny’n rhywbeth i’r gofalwyr a’r anwyliaid gan y gallwch chi fod yn bositif yn ei gylch. Dwi hefyd yn credu y gallech chi chwilio am hen luniau. Ewch i chwilio pa gerddoriaeth roeddynt yn ei hoffi. Ewch i chwilio beth oedd yn eu gorffennol a chredwch chi fi, mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth i ymarfer y rhan hwnnw o’r ymennydd sydd dal gyda ni. Maent yn gallu ymbleseru yn hynny, dwi wedi bod yn dyst iddo. Roedd yna ward ysbyty arall yr ymwelais ag o, ac roedd yna fabis ffug yno ac roedd llawer o’r merched ar y ward ac roeddynt yn credu eu bod yn rhoi maldod i’w babanod. Roedd o’n eithaf hyfryd, doedd o ddim yn rhyfedd. Roedd yn hyfryd gan eu bod wedi mynd yn ôl i le yn eu meddyliau pan roeddynt yn ofalwyr eto. Felly mae’n ymwneud â darganfod y lle yna gyda phwy bynnag sydd yn eich teulu. ‘Dwi ddim yn gwybod beth fyddai wedi bod i fy mam, fy nain achos yn amlwg doedden ni ddim yn ymwybodol adeg hynny ac mae’n fy nhristau’n fawr, ond mae’n debyg y byddai ‘nôl yn y ffatri pan oedd hi’n gwneud ei hetiau, roedd hi’n wniadwraig ac mae’n debyg y byddai’n ymwneud â pheiriant gwnïo neu phan fyddai’n ddigrif ac yn dweud jôcs drwy’r dydd yn y ffatri. Felly, ceisio dod o hyd i rywle. I fy nhaid er na fu farw o ddementia, ond fe fyddem wedi bod yn chwarae recordiau Perry Como mae’n debyg neu’n siarad am Manchester City, de chi’n gweld be dwi’n ei feddwl? Yn syml, yr hyn roeddynt yn ei garu a’u cerddoriaeth a dwi’n meddwl bod hynny’n beth mor gadarnhaol i’w wneud adref a’i chwarae’n gyson. Mae o wir yn gweithio.
LG: O bendant, a wir, mae’r negeseuon rwyt ti wedi’u rhoi heddiw yn wych, a dwi’n diolch o galon i ti am dy amser heddiw. ‘Dwi’n siŵr y bydd pawb adref yn cytuno ein bod wedi dysgu rhywbeth o hyn felly diolch yn fawr iawn am dy gefnogaeth a dy amser heddiw.
SL: Croeso.
LG: Boneddigion a Boneddigesau, diolch yn fawr i Sally Lindsay a diolch am yr holl gefnogaeth gennych chi. Cymerwch ofal.
SL: Hwyl fawr.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH