Mae cynllun peilot i annog pobl ifanc i ystyried gyrfaoedd ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu wedi bod yn llwyddiant.
Mae rhaglen ‘Gwobr Arian’ Cadetiaid Diwydiannol Wrecsam wedi gweithio gyda 45 o bobl ifanc o wahanol ysgolion uwchradd, diolch i gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Ffyniant Bro y DU.
Mae Coleg Cambria a Chyngor Wrecsam wedi bod yn gweithio gyda noddwyr lleol fel JCB, Kronospan, Networld Sports, Pathway to Carbon Zero a Gatewen Training i lansio’r fenter cadetiaid diwydiannol gyntaf yn y fwrdeistref sirol.
Mae’r rhaglen wythnos o hyd wedi’i chynllunio i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr, ac annog pobl ifanc i ystyried gweithio mewn diwydiannau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ac ennill dealltwriaeth o’r gyrfaoedd cyffrous sydd ar gael iddyn nhw yn Wrecsam.
Rhoddwyd cyfle i’r cadetiaid gymryd rhan mewn gweithgareddau diwydiannol, ymweld â busnesau, cwrdd â phrentisiaid ac arweinwyr diwydiant a datblygu eu sgiliau meddwl beirniadol, cyfathrebu, trefnu a chynllunio.
Bu’r cadetiaid yn dathlu graddio ddydd Gwener, 5 Gorffennaf, a chyflwynwyd Gwobr Ddiwydiannol Lefel Arian iddynt, sef gwobr a gydnabyddir yn genedlaethol.
Dywedodd Nick Tyson, Dirprwy Bennaeth Coleg Cambria, “Rwy’n gobeithio y bydd y dysgwyr o Flwyddyn 10 a gymerodd ran yn ystyried gyrfa ym maes Peirianneg a Gweithgynhyrchu a hefyd yn dychwelyd i’r ysgol y tymor hwn a rhannu eu profiadau gyda’u hathrawon a’u cyd-ddisgyblion. Diolch yn fawr i’n diwydiannau partner a roddodd o’u hamser gwerthfawr i gefnogi, er eu bod yn brysur â’u hamserlenni cynhyrchu.”
Mae’r cynllun wedi cael adborth gwych. Darllenwch y sylwadau hyn gan rai o’r bobl ifanc a gymerodd ran…
Louie Williams, Ysgol Bryn Alyn
“Rydw i wedi mwynhau fy mhrofiad yr wythnos yma’n fawr iawn, yn enwedig yr amser yn JCB. Rydw i’n gyffrous iawn am y cyfleoedd sydd ar gael i mi.”
Ryan Morris, Ysgol Rhosnesni
“Rydw i wedi cael amser da iawn. Roedd hi’n wych cyfarfod pobl newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd – dyma un o wythnosau gorau’r flwyddyn gyfan.”
Harvey Roberts, Ysgol Uwchradd Darland
“Mae’r rhaglen wedi bod yn ddifyr iawn ac mae wedi rhoi cipolwg go iawn i mi ar lwybrau gyrfa sydd ar gael ym maes peirianneg.”
Llewelyn Crewe, Ysgol Morgan Llwyd
“Yn bersonol, rydw i wedi mwynhau’r cyfle yma i wneud rhywbeth gwahanol ac mae wedi rhoi golwg newydd i mi ar beth hoffwn i ei wneud yn y dyfodol.”
Quinn Nevin, Ysgol Uwchradd Sant Joseff
“Mae wedi bod yn wythnos ddiddorol, llawn hwyl. Rydw i wedi dysgu llawer ac wedi cael fy ysbrydoli i edrych ar gyfleoedd am swyddi yn Wrecsam yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, “Rydym yn awyddus i edrych ar gyfleoedd i godi dyheadau disgyblion yma yn Wrecsam, felly mae wedi bod yn foddhaol gweld y prosiect hwn yn rhoi profiad cystal i’r bobl ifanc a fu’n cymryd rhan.
“Mae’r cadetiaid wedi cynyddu eu hyder dros yr wythnos wrth ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy, a gallant gyfeirio atynt ar eu ffurflenni cais ar gyfer y chweched dosbarth, coleg, prentisiaeth neu gyflogaeth.
“Hoffem ddiolch i’n hysgolion uwchradd, cyflogwyr lleol a darparwyr hyfforddiant am gyflwyno’r prosiect hwn, yn ogystal â gweithwyr y Cyngor sydd wedi chwarae rhan allweddol wrth ddarparu’r prosiect.”
Dywedodd Craig Weeks, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn JCB Transmissions: “Rydym wrth ein boddau o weithio gyda’r Cadetiaid Diwydiannol ar y prosiect cyffrous hwn ar y safle.
“Mae’r fenter hon yn darparu profiad ymarferol amhrisiadwy i ddoniau lleol ac mae’n caniatáu i ni ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr ac arloeswyr.”
Dywedodd Ben Spruce, Prif Swyddog Ariannol yn Kronospan UK: “Roedd yn fraint croesawu grŵp mor awyddus o fyfyrwyr i’r safle i ddysgu am natur amrywiol swyddi ym maes diwydiant a pheirianneg a chlywed profiadau go iawn gan rai o’n cyn-brentisiaid.
“Rydw i’n gwybod bod y tîm o Kronospan wedi mwynhau bod yn rhan o’r Rhaglen Cadetiaid Diwydiannol a gobeithiwn ei gweld yn tyfu a chefnogi mwy o bobl ifanc yn y dyfodol.”
Dywedodd Gareth Daniel Davies yn Net World Sports, “Roedd Net World Sports wrth ein boddau o allu croesawu’r cyfranogwyr brwdfrydig o Raglen Cadetiaid Diwydiannol Wrecsam i’r safle yr wythnos diwethaf.
Roedd hi’n wych gallu dangos y lle i’r myfyrwyr ifanc hyn a rhoi cipolwg iddynt o’r cyfleoedd anhygoel sydd gennym.”
Dywedodd Rebecca Morgan, Cyfarwyddwr yn Pathway To Carbon Zero, “Fe wnaeth parodrwydd y cadetiaid i ymgysylltu mewn stiwardiaeth amgylcheddol ein hysbrydoli ni ac roeddem wrth ein bodd o weld y brwdfrydedd a’r ddealltwriaeth a ddangoswyd dros y deuddydd. Rydym yn sylweddoli y bydd angen unigolion ifanc brwdfrydig sy’n deall y pwnc hwn a’n hanghenion o ran cynaliadwyedd ar yr economi yn y dyfodol.”
Dywedodd Julian Hughes, Cyfarwyddwr yn Gatewen, “Mae wedi bod yn wych rhoi cyfle i ddysgwyr ddefnyddio’r peiriannau efelychu gyrru o’r radd flaenaf. Mae’r prosiect wedi rhoi gwybodaeth i ddysgwyr ifanc mae ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau deallus am eu gyrfaoedd.”
Hoffai Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, Busnes a Thwristiaeth, ddiolch i fusnesau Wrecsam a darparwyr addysg lleol oherwydd mae’r prosiect hwn yn dangos cydweithio gwych a bydd yn helpu i baratoi sectorau diwydiant ar gyfer y dyfodol, gyda diddordeb newydd gan bobl ifanc amrywiol sydd wedi cael profiad o gyfleoedd cyflogaeth go iawn ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.