Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Adran Dai Wrecsam yn gwella eu Gwasanaethau Digidol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae Adran Dai Wrecsam yn gwella eu Gwasanaethau Digidol
ArallY cyngor

Mae Adran Dai Wrecsam yn gwella eu Gwasanaethau Digidol

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 19, 2024 3:41 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
devices stacked on top of each other
RHANNU

Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam yn ceisio diogelu’r gwasanaeth maen nhw’n ei ddarparu ar gyfer y dyfodol trwy gynnig mwy o gyfathrebu digidol i’r rhai y mae’n well ganddynt ddefnyddio dull digidol. Mae’r dull y mae pob unigolyn yn ei ffafrio ar gyfer gohebiaeth yn amrywio, felly mae’n bwysig bod yr Adran Dai yn nodi pwy sy’n gyfforddus yn defnyddio’r we, ac a fyddai’n ffafrio cyfathrebu fel hyn.

Y nod wrth anfon mwy o ohebiaeth yn ddigidol yw darparu gwasanaeth amserol ac effeithlon, a bydd cynyddu’r defnydd o ohebiaeth electronig yn caniatáu i’r Cyngor leihau costau postio a chostau argraffu, a galluogi deiliaid contract i dderbyn gwybodaeth yn fwy amserol.

Mae nifer o ffyrdd o gysylltu â’r Adran Dai ar-lein ac maen nhw wedi lansio eu ffurflen ar-lein ar gyfer rhoi gwybod am waith atgyweirio a ffurflen gais am dŷ yn ddiweddar.

Mae canlyniadau’r ffurflenni yn profi bod ein deiliaid contract yn defnyddio gwasanaethau ar-lein er mwyn rhoi gwybod am broblemau neu i wneud cais am dŷ.

Ym mis Ionawr yn unig, daeth mwy na 1,000 o adroddiadau i law’r Adran Dai trwy’r ffurflen atgyweirio ddigidol.

Mae sgiliau digidol pawb yn wahanol, ac mae rhai yn well na’i gilydd ac rydym yn deall ei bod yn bwysig ein bod ar gael i ddarparu cefnogaeth trwy swyddfeydd ystadau a thimau dyrannu wrth i bobl ddefnyddio ein gwasanaethau digidol.

Mae’r Adran Dai yn cysylltu â’u deiliaid contract yn ddigidol mewn amryw ffyrdd eisoes. Mae hyn yn cynnwys rhannu newyddion trwy’r cyfryngau cymdeithasol a’n gwasanaeth e-bost ‘newyddion tenantiaid’.

Mae defnyddio ‘newyddion tenantiaid’ yn caniatáu i’n deiliaid contract danysgrifio i gael newyddion sy’n benodol am dai yn uniongyrchol trwy e-bost.

Ydych chi’n ddeiliad contract gyda’r Cyngor ac am danysgrifio i’n gwasanaeth ‘newyddion tenantiaid’? Gallwch gofrestru’n hawdd yma

Eich dull cyfathrebu a ffefrir

Wrth i Adran Dai Wrecsam symud fwy at ohebiaeth ddigidol, bydd hyn wedi’i deilwra’n benodol at eich dewis personol chi. Os ydych chi’n Ddeiliad Contract gyda’r Cyngor (tenant y Cyngor), ac am nodi eich dull cyfathrebu a ffefrir ar gyfer y dyfodol, llenwch y ffurflen fer hon

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd, “Rydym am dargedu’r bobl sy’n gyfforddus ar-lein i ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein er mwyn darparu gwasanaeth effeithlon ac amserol.

“Rydym yn cynnig cymorth trwy ein swyddfeydd tai a dyraniadau i’r rhai a allai fod angen cefnogaeth i gael mynediad at ein gwasanaethau digidol, os byddant yn dymuno gwneud hynny. Bydd dulliau arferol ar gael o hyd i’r rhai sy’n nodi y byddai’n well ganddynt gael gohebiaeth trwy lythyr neu alwad ffôn.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Industrial Cadets Gyrfa mewn peirianneg? Cynllun peilot yn ysbrydoli myfyrwyr ysgol uwchradd yn Wrecsam
Erthygl nesaf Swyddogion Gwarchod y Cyhoedd yn parhau i frwydro yn erbyn tybaco a fêps anghyfreithlon Swyddogion Gwarchod y Cyhoedd yn parhau i frwydro yn erbyn tybaco a fêps anghyfreithlon

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English