Wrth i chi ystyried gyrfa ym maes Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, efallai mai gweithio i gwmni yn ‘Sillicon Valley’ neu gylchfan silicon Llundain yw’r freuddwyd. Ond efallai nad ydych yn ymwybodol o’r yrfa TGCh lwyddiannus sydd yn disgwyl amdanoch ar garreg eich drws.
Gofynnom i Germaine Hughes, Rheolwr Gwasanaethau Technegol TGCh Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fynegi barn am ei gwaith yn yr Adran TGCh a pha mor werthfawr yw’r gwaith hwnnw.
Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am weithio yn yr Adran TGCh?
Rwy’n mwynhau gweithio yn yr Adran TGCh, yn enwedig mewn amgylchedd menter mor fawr, rwyf yn dysgu rhywbeth newydd yn gyson ac mae ystod eang o dechnolegau ar gael er mwyn dysgu a datblygu eich gwybodaeth.
Gan ein bod yn dîm bychan, mae’r gallu gennym i weithio ar draws yr holl ddisgyblaethau heb gael ein gosod mewn un maes technoleg penodol.
Mae’r adran TGCh hefyd yn alluogwr allweddol o ran y gwaith ail-lunio sy’n cael ei wneud o fewn yr Awdurdod. Does dim yn rhoi mwy o foddhad na gweld y gwaith technegol rydym yn ei wneud yn gwella ein gwasanaethau rheng flaen gan eu gwneud yn fwy effeithlon wrth ddarparu ar gyfer trigolion Wrecsam.
Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i rywun sy’n awyddus i weithio ym maes TGCh?
Mae llawer o swyddi gwahanol o fewn yr Adran TGCh, a phob un swydd yn gofyn am gyfres o sgiliau gwahanol. Nid oes rhaid i chi o reidrwydd feddu ar yr holl sgiliau TGCh hyn yn barod, dim ond i chi ddangos eich bod yn chwilfrydig ac yn awyddus i ddysgu.
BASWN I’N CARU GWEITHIO GYDA GERMAINE, CYMERWCH FI I’R FFURFLEN GAIS
Beth yw dy hoff beth am weithio i Gyngor Wrecsam?
Rwy’n mwynhau gweithio mewn sefydliad mor wahanol sydd â gwasanaeth cwsmer wrth wraidd pob dim y mae’n ei wneud.
Ar lefel bersonol, rwy’n hoff iawn o oriau gweithio hyblyg Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ynghyd â’r ffaith fy mod yn ddigon ffodus i fod mewn swydd sy’n caniatáu i mi weithio mewn ffordd hyblyg ac oddi cartref o bryd i’w gilydd.
Fel mam, mae hyn yn golygu fy mod yn treulio llai o amser yn teithio bob dydd a fy mod yn gallu gorffen gweithio’n gynnar er mwyn mynychu rhai digwyddiadau, megis noson rieni a sioe Nadolig yr ysgol, pethau na fyddwn wedi gallu eu gwneud mewn swydd 9-5, sydd yn rhoi cydbwysedd da i mi rhwng fy mywyd gartref a’r gwaith.
Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am fyw yng Ngogledd Cymru?
Rwy’n byw ym Mhenarlâg, Sir y Fflint, sydd tua 10 milltir o Wrecsam ac felly mae cymudo’n hawdd. Rwyf yn hoff iawn o’r ffaith ein bod yn cael y gorau o ddau fyd – mae gennym ddinasoedd, megis Manceinion a Lerpwl, ar garreg ein drws yn ogystal â mynyddoedd Eryri ac arfordir Gogledd Cymru.
Noder bod y swydd yma bellach wedi cau i geisiadau.
Swnio’n dda? Rydym yn chwilio am ddadansoddwr technegol profiadol ar hyn o bryd i ymuno â’r tîm TGCh yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Ydych chi’n ateb y gofynion?
YDW! RYDW I EISIAU YMGEISIO!
NA, MI WNÂI ANWYBYDDU’R CYFLE RHAGOROL HWN