Mae gyrwyr Tacsis Apollo sydd wedi’u lleoli yng nghanol tref Wrecsam newydd dderbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddementia – y cwmni tacsis cyntaf yn y dref i drefnu hyn ar gyfer eu staff 🙂
Cyflwynwyd y sesiwn un awr gan Bev Larkins, Pencampwr Dementia ac Aelod o Grŵp Llywio Cymunedau Dementia Gyfeillgar Wrecsam yn swyddfa tacsis Apollo yn Charles Street.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Meddai Joss Thomas, Swyddog Trwyddedu Arbenigol: “Gyrwyr tacsis yw llygaid a chlustiau ein strydoedd. Maen nhw’n aml iawn mewn sefyllfa i helpu pobl â dementia ac maen beth da eu bod nhw rŵan hyd yn oed yn fwy ymwybodol o’r hyn y mae rhywun sydd â dementia yn mynd drwyddo. Hoffwn ddiolch iddyn nhw i gyd am gymryd rhan – yn enwedig gan mai sesiwn wirfoddol oedd hon nad oedd yn angenrheidiol o dan amodau eu trwydded – ac am gydnabod y rôl arwyddocaol y gallant ei chwarae mewn diogelu cymunedau.”
Meddai Debbie Belton, Rheolwr Swyddfa: “Roedd y sesiwn yn hynod ddiddorol a defnyddiol. Ryda’ ni i gyd yn teimlo’n well o wybod y gallwn wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun arall. Dim ond tua awr oedd y sesiwn a buaswn yn annog sefydliadau eraill sy’n chwarae rolau tebyg i ni yn y gymuned i wneud yr un fath.”
Os hoffech drefnu hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddementia ar gyfer eich staff chi, anfonwch e-bost at: dementiafriendlywrexham@outlook.com
Yn y llun mae:
Wayne Hughes, CBSW, Debbie Belton, Rheolwr Swyddfa, gyrwyr Apollo Gary Goodwin, Christopher Edwards, Piotr Nartowski ac Andrew Doughty, a Bev Larkin, CBSW
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION