Rydym bron â chyrraedd hanner ffordd yn hanner tymor mis Mai, ond mae digon o bethau yn dal i’w gwneud er mwyn mynd o gwmpas y lle gyda’r rhai bach.
Codwch eich dyddiadur a gwirio’r rhestr isod.
29 Mai, 11am-4pm
Gwenu gyda’r Gwenyn
Parc Gwledig Tŷ Mawr
Gwenwch gyda’r gwenyn gyda thaith ddarganfod gwenyn a gweithgareddau eraill llawn hwyl. Yn addas ar gyfer BOB oed. Am fwy o wybodaeth ffoniwch: 01978 763140 neu e-bost: countryparks@wrexham.gov.uk.
Bydd y gost yn amrywio yn ôl y gwahanol weithgareddau.
Mai 29, 3.30-4.30pm
Darllen efo Elliott
Llyfrgell Rhiwabon
Addas ar gyfer rhai 3-8 oed. Ymunwch â ni am sesiwn stori ryngweithiol Ffoniwch 01978 822002 i gael manylion pellach.
AM DDIM
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
30 Mai, 1.30-3.30pm
Hyfforddiant Tennis
Parc Bellevue
Yn addas ar gyfer rhai 6-14 oed. Cwrdd wrth y cyrtiau tennis. Rydym yn argymell eich bod yn cadw lle. Ffoniwch 01978 763140 i gadw lle neu countryparks@wrexham.gov.uk
AM DDIM
30 Mai, 1.30-3.30pm
Taith Drysorau Natur
Parc Gwledig Pyllau Plwm y Mwynglawdd
Ymunwch â ni am daith natur lawn hwyl i’r teulu yn crwydro Parc Gwledig y Mwynglawdd, yn chwilio am gliwiau a chefnogi bywyd gwyllt a thrysorau natur wrth i chi fynd yn eich blaen. Mae pob gweithgaredd tu allan. Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas. Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol bob amser. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: 01978 757524 neu e-bost: info@groundworknorthwales.org.uk
£2 fesul plentyn.
30 Mai, 2-2.30pm
Stori a Chân
Llyfrgell Wrecsam
Amser stori Gymraeg a fydd yn cynnwys stori Elfed yr Eliffant. Cafodd Elfed ei greu gan David McKee a’i gyhoeddi am y tro cyntaf gan Andersen Press fel Elmer yn 1989. Ers hynny mae clytwaith eiconig Elfed a’i gymeriad wedi ei wneud yn ffefryn mawr ar filiynau o aelwydydd ledled y byd. Mae Elfed yn annog plant i dderbyn gwahaniaethau pobl eraill ac arfer goddefgarwch a charedigrwydd. Edrychwn ymlaen i’ch gweld chi yn ystod hanner tymor! Gwahoddir plant i wisgo eu dillad mwyaf llachar i’n helpu i ddathlu’r eliffant hoffus hwn. Ffoniwch 01978 292090 i gael manylion pellach.
31 Mai, 6-8pm
Sesiwn Nofio Gyfeillgar i Awtistiaeth.
Canolfan Hamdden Plas Madoc.
Mae hwn yn ddigwyddiad i deuluoedd sydd â phlentyn ar y sbectrwm awtistig, gyda neu heb ddiagnosis. Trefnwyd a thalwyd am y digwyddiad hwn gan NAS Wrecsam. Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch â: wrexham@nas.org.uk
1 Mehefin, 10am-4pm
Y Digwyddiad Mawr Adeiladu Lego
Canolfan Ymwelwyr Basn Trefor
Bydd y meistr Lego, Steve Guiness – boi’r briciau – yn ymuno â ni yn y ganolfan ymwelwyr i adeiladu model graddfa 4+ metr o Draphont Ddŵr Pontcysyllte. Dewch draw i gymryd rhan, helpwch ni i adeiladu’r campwaith LEGO ardderchog hwn. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: 01978 822912 neu e-bost: TrevorVisitor.Centre@canalrivertrust.org.uk
AM DDIM
Cofiwch, mae rhai dan 16 oed yn nofio am ddim gyda Freedom Leisure
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU