Mae’r cyfle i gael dweud eich dweud ynglŷn â ffyrdd a allai newid o 20mya i 30mya wedi dechrau.
Mae’r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (GRhT) wedi eu cyhoeddi ac mae gennych tan 31 Ionawr, 2025 i anfon eich barn atom ar e-bost. Mae’r rhestr lawr o ffyrdd ar gael ar ein gwefan.
Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn adolygu’r holl sylwadau a gawsom yn dilyn Cam Gwrando 20mya Llywodraeth Cymru, ac yn eu hasesu yn erbyn y canllawiau diwygiedig.
Mae rhestr o ffyrdd y credwch y dylent ddychwelyd i gael terfyn cyflymder o 30mya wedi eu cyhoeddi, ble mae’r canllawiau hefyd yn awgrymu y byddai’n addas. GRhT yw hwn, ac mae’n ofyniad cyfreithiol cyn y gellir newid y terfyn cyflymder.
Mae gan bob GRhT ymgynghoriad cyhoeddus sy’n golygu eich bod nawr yn gallu dangos cefnogaeth neu godi gwrthwynebiadau.
Ar ddiwedd cyfnod ymgynghori y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, bydd y penderfyniadau terfynol am unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud fel rhan o brosesau gwneud penderfyniadau arferol y Cyngor. Sylwer na fyddwn yn gallu rhoi adborth unigol i bob sylw a gawsom a bydd hyd y rhan hwn o’r broses yn dibynnu ar nifer y gwrthwynebiadau a geir, a’u cymhlethdod.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd: “Mae hwn wedi bod yn brosiect hir a hoffwn ddiolch i’r staff am eu gwaith caled yn ogystal ag aelodau o’r cyhoedd sydd wedi rhoi eu safbwyntiau ar ba ffyrdd y credant y dylent fod yn 30mya. Rwy’n annog preswylwyr i ymateb i’r ymgynghoriad hwn a sicrhau bod eu safbwyntiau’n cael eu clywed.” Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol yn Chwefror 2025.
Os hoffech gefnogi neu wrthwynebu unrhyw un o’r cynigion, anfonwch e-bost i 20mphConsultation@wrexham.gov.uk. Sylwer ein bod ond yn gallu derbyn ymatebion sy’n benodol i’r ffyrdd a restrir yn y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.