Heddiw, mae Cyngor Wrecsam yn lansio ymgynghoriad sy’n canolbwyntio ar sefydlu darpariaeth newydd ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n edrych ar y cynnig ac yn dweud eich dweud.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn i chi roi eich barn ar y ddarpariaeth newydd, a fydd yn y Ganolfan Gyfleoedd ym Mhlas Madoc ac o’r enw COPA.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r galw am leoedd ysgol arbenigol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi codi yn Wrecsam. Mae angen lleoliad mwy arbenigol ar nifer sylweddol o blant sydd â symptomau niwroamrywiaeth, gydag awtistiaeth fel eu prif faes cymorth, i ddiwallu eu hanghenion dysgu a lles. Trwy ddwyn y cynnig hwn ymlaen, mae’r Cyngor yn bwriadu mynd i’r afael â’r galw cynyddol am leoedd arbennig mewn ysgolion.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol Addysg: “Mae’r angen am leoedd addysg addas i’r disgyblion hynny ag ADY yn cynyddu a bydd y cynnig hwn yn mynd i’r afael â’r patrwm newidiol hwnnw o angen a galw mewn addysg arbennig. Rydyn ni am glywed barn y rhai y mae’r cynnig hwn yn effeithio arnynt fel bod unrhyw newidiadau’n cael eu cyflawni mewn ffordd sy’n sicrhau bod plant a phobl ifanc Wrecsam yn gallu cyflawni’r gorau y gallan nhw.”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Blackwell, aelod lleol dros Ogledd Acre-fair: “Byddwn yn annog pawb y byddai hyn yn effeithio arnynt i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a manteisio ar y cyfarfodydd ymgynghori sy’n cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc a The Kettle Club ddechrau mis Ebrill. Bydd y rhain yn gyfle pwysig i ofyn cwestiynau cyn anfon eich sylwadau.”
Dywedodd Claire Pugh, rheolwr datblygu chwarae a chymunedol o AVOW: “Rydyn ni’n annog pawb o’r gymuned leol i ymuno â ni yn The Kettle Club ar 2 a 3 Ebrill i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Bydd y sesiynau ymgynghori’n rhoi cyfle i ddysgu mwy am y datblygiad arfaethedig, gofyn unrhyw gwestiynau a rhannu eich barn.”
Mae’r ymgynghoriad a’r holl ddogfennau perthnasol ar gael ar Eich Llais. Mae gennych tan 11 Mai 2025 i anfon eich sylwadau atom.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.