Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hawl i Ryddid Wrecsam i Rob a Ryan?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Hawl i Ryddid Wrecsam i Rob a Ryan?
Pobl a lle

Hawl i Ryddid Wrecsam i Rob a Ryan?

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 4, 2022 11:25 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Ryan Reynolds
RHANNU

Mae’n bosibl y bydd Clwb Pêl-droed Wrecsam a’i berchnogion, Rob McElhenney a Ryan Reynolds, yn derbyn hawl i ‘ryddid y fwrdeistref sirol.’

Cynnwys
  • Hanes balch
  • The time is right

Bydd y cynnig yn cael ei gyflwyno i Fwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ddydd Mawrth, 8 Tachwedd i gydnabod hanes hir a balch y clwb, a chyfraniad arbennig y ddau berchennog at hyrwyddo Wrecsam ar draws y byd.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Os caiff ei gymeradwyo, bydd yr argymhellion yn mynd gerbron y Cyngor llawn ym mis Rhagfyr.

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Pêl-droed yw calon ein cymuned ac mae yna angerdd a chefnogaeth anhygoel i’r clwb.

“Mae gennym hanes anhygoel yma yn Wrecsam, ynghyd â chymeriad a hunaniaeth unigryw sy’n denu cefnogwyr o bob cwr o’r byd.

“Mae dau actor Hollywood wedi cael effaith sylweddol ar y clwb pêl-droed a’r gymuned, ac wedi helpu i ddathlu Wrecsam ar lwyfan byd-eang.

“Mae’r ddau ohonynt yn unigolion hyfryd sydd wedi rhoi popeth i’r ddinas hon, ac mae’n teimlo fel yr adeg iawn i ni ystyried sut y gallwn gydnabod hynny.”

Hanes balch

Clwb Pêl-droed Wrecsam yw’r trydydd clwb pêl-droed proffesiynol hynaf yn y byd. Dyma rai ffeithiau allweddol:

  • Sefydlwyd y clwb ym 1864.
  • Ym 1877, cynhaliwyd y clwb gêm gartref ryngwladol gyntaf Cymru ar y Cae Ras.
  • Ym 1935, denwyd 24,086 o gefnogwyr i gêm leol yn erbyn Dinas Caer.
  • Mae’r chwaraewyr cofiadwy dros y cenedlaethau’n cynnwys Joey Jones, Mickey Thomas, Dixie McNeil…a Tommy Bamford sydd wedi sgorio 175 o goliau cynghrair i’r clwb.
  • Mae’r llwyddiannau cofiadwy’n cynnwys ennill yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Porto ym 1983, Arsenal ym 1992, a Middlesbrough ym 1999.
  • Prynodd cefnogwyr y clwb yn 2011, ac enillodd tîm Andy Morrell Dlws yr FA yn 2013.
  • Prynodd actorion Hollywood Rob McElhenney a Ryan Reynolds y clwb ym mis Chwefror 2021.

Galwch ddarllen mwy yn yr erthygl ddiddorol ar wefan y clwb.

The time is right

Yr adeg iawn

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae Pêl-droed yng ngwaed Wrecsam, ac mae llwyddiannau’r clwb bob amser wedi cael dylanwad mawr ar ein cymuned.

“Rydym yn byw ac yn mwynhau cyfnod cyffrous iawn ac rwy’n falch bod y cynnig yn mynd gerbron y Bwrdd Gweithredol.

“Mae’r perchnogion yn ein helpu i hyrwyddo Wrecsam fel cyrchfan sy’n denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd, ac mae arnom ni angen meddwl am sut gallwn gydnabod hynny.

“Maent wedi cael effaith anhygoel ar ein cymunedau.”

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Bydd FyNghyfrif oddi ar-lein am gyfnod byr Bydd FyNghyfrif oddi ar-lein am gyfnod byr
Erthygl nesaf Fo £22,000 i helpu Banc Bwyd Wrecsam ymestyn ei ddarpariaeth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English