Mae cyn aelod o’r Gwarchodlu Cymreig wedi galw ar gyn-aelodau’r lluoedd arfog sy’n dioddef o golled clyw i ofyn am gefnogaeth gan wasanaeth newydd sy’n cael ei redeg gan yr elusen Gweithredu ar Golled Clyw Cymru.
Bu Steve Liversage yn aelod o’r Gwarchodlu Cymreig am 27 o flynyddoedd a chollodd ei glyw o ganlyniad i sŵn gynnau, sydd hefyd wedi arwain at dinitws – sŵn uchel a di-baid yn y clustiau.
Meddai Steve: “Dydi pobl ddim y sylweddoli peth mor anodd ydi colli eich clyw. Mae’n ei gwneud yn anodd iawn i gael sgwrs efo pobl eraill ac mae gorfod gofyn i bobl ailadrodd eu hunain dro ar ôl tro yn rhoi cnoc i’ch hyder. Roeddwn i wedi dechrau teimlo’n unig dros ben.”
Noddir y Prosiect Cyn-filwyr Hŷn drwy Gronfa Milwyr Hŷn y Weinyddiaeth Amddiffyn ac fe’i lansiwyd i gefnogi cyn-filwyr o bob rhan o Gymru a gafodd eu geni cyn 1950 sy’n fyddar, â nam ar eu clyw neu sy’n dioddef o dinitws.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Mae’r gwasanaeth rhad ac am ddim yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth yn y gymuned ac yng nghartrefi pobl, gan ddarparu gwiriadau clyw sylfaenol, treialon offer a chefnogaeth cyn ac ar ôl gosod teclynnau clyw.
Meddai Rebecca Woolley, Cyfarwyddwr Gweithredu ar Golled Clyw Cymru: “Gall byddardod, colled clyw a thinitws wneud i bobl deimlo’n hynod o unig gan arwain ar broblemau iechyd meddwl ac iselder. Mae ymchwil yn dangos fod cyn-aelodau’r lluoedd arfog fwy na theirgwaith yn fwy tebygol o ddioddef colled clyw na’r boblogaeth yn gyffredinol, yn aml o ganlyniad i ddinoethiad dro ar ôl tro i sŵn gynau a ffrwydron ac ati. Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn helpu cyn-aelodau’r lluoedd arfog o bob rhan o Gymru i gael cefnogaeth.
Mae Pencampwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd David Griffiths, yn annog cyn aelodau’r lluoedd arfog i gysylltu. Meddai: “Mae’n siŵr bod ‘na lawer o gyn-aelodau’r lluoedd arfog yn Wrecsam sy’n dioddef o golled clyw a thinitws ac yn y blaen ac sy’n teimlo’n fwy a mwy ynysig o ganlyniad i hynny. Rydym wedi gweithio gyda Action for Hearing Loss Cymru ac rydym yn falch iawn o fod wedi ennill eu Marc Siarter ‘Louder than Words’ am wella ein gwasanaethau i bobl â choll yw clyw.”
Rwy’n eu hannog nhw neu eu teuluoedd i gysylltu er mwyn gweld cymaint sydd ar i’w helpu nhw i wella ansawdd eu bywyd.”
Mae arwyddion colled clyw yn cynnwys:
- Gofyn i bethau gael eu hailadrodd neu ymateb yn anghywir yn ystod sgyrsiau
- Methu clywed cloch y drws neu’r ffôn
- Troi’r sŵn ar y teledu i fyny a/neu geisiadau gan eraill i droi’r sŵn i lawr
- Ddim yn ymuno mewn sgyrsiau grŵp, mynd allan i’r dafarn neu fynychu digwyddiadau cymdeithasol mor aml ag o’r blaen
- Teimlo’n ynysig, diffyg ysgogiad neu iselder
Os ydi hyn yn swnio’n debyg i chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod, byddai staff y prosiect wrth eu bodd cael y cyfle i helpu.
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad ffoniwch 02920 333 034, ffôn testun 02920 333 036 neu anfonwch e-bost at:
Gogledd Cymru – nicky.darton@hearingloss.org.uk
De Cymru – darren.white@hearingloss.org.uk
Neu gallwch ysgrifennu at y Prosiect Cyn Aelodau’r Lluoedd Arfog Hŷn (Aged Veterans Project) yn Anchor Court North, Keen Road, Caerdydd CF24 5JW
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.