Mae gan breswylwyr dal cyfle i helpu i ffurfio dyfodol gofal dementia trwy gymryd rhan yn Ymgyrch Wrando Gymunedol Wrecsam, ond dim ond tan ddiwedd mis Ionawr sydd gennych chi i ddweud eich dweud a gwneud gwahaniaeth.
Gallwch helpu drwy lenwi’r arolwg gwrando, sydd yn fyw tan 31 Ionawr. Dim ond tua 10 munud mae’n ei gymryd i lenwi’r arolwg ac mae’n gofyn am eich barn am nifer o bethau sy’n ymwneud â gofal dementia, gan gynnwys ‘beth yw gofal dementia da?’ a ‘beth ddylai fod ar gael i bobl sy’n byw gyda dementia yn y gymuned hon?’.
Mae’r ymgyrch yn rhan o brosiect ehangach Cymru’n Gwrando a gaiff ei gefnogi gan Gwelliant Cymru a Citizens UK, ac mae ambell ffordd wahanol o gymryd rhan.
“Mae eich barn yn wirioneddol bwysig”
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae dementia’n effeithio ar gymaint o bobl a’u teuluoedd mewn gymaint o wahanol ffyrdd. Mae siarad gyda phobl eraill a rhannu’r profiadau hyn yn ein helpu nid yn unig i ddatblygu’r gefnogaeth sy’n bodoli eisoes, ond yn bwysig, mae’n gadael i ni weld pa gefnogaeth arall sydd ei hangen hefyd.
“Bydd Ymgyrch Wrando Gymunedol Wrecsam yn ein helpu i ganfod y pethau pwysig hyn, ac rydym am geisio casglu gymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl i helpu i wella gofal dementia.”
Mae gwella gofal dementia yn fater i bawb, felly rhowch o’ch amser os gallwch.
LLENWCH YR AROLWG GWRANDO RŴAN
Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia – Newyddion Cyngor Wrecsam