Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia
Y cyngorFideoPobl a lle

Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 6, 2023 6:04 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Hands
RHANNU

Os oes gennych chi anwylyn sydd â dementia ac sydd yn yr ysbyty, yna darllenwch ymlaen.

Ymgyrch genedlaethol yw Ymgyrch John sydd yn galluogi teuluoedd a gofalwyr y rhai sydd â dementia, anableddau dysgu, awtistiaeth neu anghenion cymhleth eraill, i barhau i roi cefnogaeth mewn lleoliadau gofal iechyd.

Ar ôl cael ei wahardd dros dro yn ystod pandemig Covid-19, mae’r gwasanaeth yma’n golygu y gall gofalwr neu aelod o’r teulu fod yn bresennol yn ystod amser gofal cyffredinol, yn ystod amser bwyd, y tu allan i oriau ymweld, ac i fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau.  Gan ei bod hi bellach yn ddiogel, mae’n cael ei ailgyflwyno ac mae’n cydnabod y rôl bwysig y mae teuluoedd a gofalwyr yn ei chwarae wrth gefnogi pobl sy’n byw gyda’r anghenion hynny.

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion:  “Mae’r rôl y mae teuluoedd a gofalwyr yn ei chwarae yn cefnogi pobl sydd ag anghenion cymhleth yn hanfodol ac rydw i’n falch o weld bod yr opsiwn yma ar gael unwaith eto. 

“Gall y pryder a’r dryswch y mae nifer o gleifion ei deimlo yn y sefyllfa hon fod yn llethol ac mae oriau ymweld sydd yn agored yn gefnogol iawn.”

Os ydych chi’n gofalu am rywun sydd â dementia, anawsterau dysgu, awtistiaeth neu anghenion cymhleth eraill ac angen trefnu mynediad yn ystod arhosiad yn yr ysbyty, cysylltwch â’r ward neu adran yn yr ysbyty’n uniongyrchol.

Gallwch gael mwy o wybodaeth ar wefan Ymgyrch John yma.

Swyddi a gyrfaoedd – gweithiwch i ni a bod yn rhan o’r stori.

Rhannu
Erthygl flaenorol The Guildhall, Wrexham Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau
Erthygl nesaf Councillor Nigel Williams visits The Uncommon Practice Busnes arbennig o dda ;)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English