Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Helpwch ni i sicrhau y gall pob un ohonom ddefnyddio mannau cyhoeddus sydd yn ddiogel rhag ymddygiad gwrth gymdeithasol. Mae arnom ni angen eich barn!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Helpwch ni i sicrhau y gall pob un ohonom ddefnyddio mannau cyhoeddus sydd yn ddiogel rhag ymddygiad gwrth gymdeithasol. Mae arnom ni angen eich barn!
Pobl a lleY cyngor

Helpwch ni i sicrhau y gall pob un ohonom ddefnyddio mannau cyhoeddus sydd yn ddiogel rhag ymddygiad gwrth gymdeithasol. Mae arnom ni angen eich barn!

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 31, 2019 10:23 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Helpwch ni i sicrhau y gall pob un ohonom ddefnyddio mannau cyhoeddus sydd yn ddiogel rhag ymddygiad gwrth gymdeithasol. Mae arnom ni angen eich barn!
RHANNU

Ydych chi wedi clywed am ein Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO)? Peidiwch â phoeni os nad ydych chi wedi 🙂

Cynnwys
  • Felly, beth ydi Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus?
  • Mae arnom eisiau eich barn!
  • Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) yn golygu sicrhau y gall pob un ohonom ddefnyddio mannau cyhoeddus yn ddiogel rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol… mae’n rhywbeth sy’n cael ei weithredu i’n helpu i fwynhau Wrecsam ar ei orau.

Ym mis Awst 2016, rhoddodd ein Bwrdd Gweithredol gymeradwyaeth ar gyfer PSPO tair blynedd o hyd yn Wrecsam. Wrth i ni nesáu at ddiwedd y cyfnod yma, mae angen i ni ei adolygu, felly dyna pam rydym ni angen eich cymorth 🙂

Felly, gadewch i ni wybod beth rydych chi’n ei feddwl yma

Rydym angen eich barn ar gadw ein mannau cyhoeddus yn ddiogel, a gallwch ddweud wrthym trwy gymryd rhan yn ein hymgynghoriad cyhoeddus.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn y cyhoedd a chyrff eraill sydd â diddordeb ynghylch â ydi’r PSPO presennol yn berthnasol ac a ddylai barhau.

Yr ardal sydd wedi’i gynnwys yn y PSPO ydi canol y dref a rhannau o Rhosddu. Gallwch weld y map o’r ardal sydd wedi’i gynnwys yn y Gorchymyn yma

Hyd yma, mae’r Gorchymyn wedi cefnogi’r Cyngor a’n partneriaid yn ein dull wrth fynd i’r afael â nifer o bryderon penodol sy’n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal berthnasol. Mae hefyd wedi annog pobl ddiamddiffyn i dderbyn cefnogaeth a gwasanaethau, gan helpu i dorri’r cylch o ymddygiad a bregusrwydd y gallant fod yn gaeth iddo.

O safbwynt digartrefedd, cysgu ar y stryd a begera, nod y Cyngor a phartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus yw cynnig cefnogaeth i bobl yn yr amgylchiadau hyn.

Felly, beth ydi Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus?

Pan fo problemau neu achosion o niwsans yn yr ardal yn effeithio ar ansawdd bywyd y gymuned leol, fe allwn gyflwyno rheolau i ddelio ag o. Mae’r rheolau neu ‘orchmynion’ hyn wedi’u dylunio i sicrhau y gall pob un ohonom ddefnyddio mannau cyhoeddus sydd yn ddiogel rhag ymddygiad gwrth gymdeithasol.

Mae ‘gorchymyn’ yn gosod cyfyngiadau a gofynion am ymddygiad penodol mewn ardal. Gall y gorchymyn bara am gyfnod o hyd at 3 blynedd.

Mae hi’n drosedd peidio â chadw at y gorchymyn, a gallwch naill ai gael rhybudd cosb benodedig o £100 neu gael eich erlyn, a allai arwain at gael dirwy o hyd at £1,000.

Mae arnom eisiau eich barn!

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i bennu barn y cyhoedd a chyrff eraill sydd â diddordeb o ran a oes cefnogaeth yn parhau i fod i’r mesurau sydd wedi eu cynnwys yn y PSPO ac y dylent barhau.

Felly, gadewch i ni wybod beth rydych chi’n ei feddwl yma

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Y PSPO ydi un o’r teclynnau a’r deddfwriaethau sydd ar gael i ni fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol er lles unigolion diamddiffyn a phreswylwyr, ymwelwyr a busnesau lleol. Rydym yn ymwybodol nad gorfodi yn unig yw’r ateb i’r problemau, ond mae’n rhan hanfodol o ymagwedd holistaidd rydym wedi ei mabwysiadu gan gynnwys cyfraniadau gan yr Awdurdod Lleol, Heddlu Gogledd Cymru, Iechyd a chyrff elusennol.

Rydym yn gweithio ar y cyd i ddileu unrhyw rwystrau sy’n bodoli sy’n atal pobl ddiamddiffyn rhag ymgysylltu’n gadarnhaol gyda gwasanaethau a sicrhau y cynigir llwybrau cadarnhaol i bobl allan o’u sefyllfa.”

Mae’n amlwg trwy beidio â mynd i’r afael â phryderon yn effeithiol, y gallai gael effaith andwyol ar Wrecsam”.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd y Bwrdd Gweithredol yn ystyried canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Hydref 2019 a bydd ar gael ar wefan y cyngor.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Masnachwr marchnad yn dathlu 50 mlynedd o fusnes Masnachwr marchnad yn dathlu 50 mlynedd o fusnes
Erthygl nesaf Hud, creu a ffilmiau yn ystod wythnos 3! Hud, creu a ffilmiau yn ystod wythnos 3!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English