Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Masnachwr marchnad yn dathlu 50 mlynedd o fusnes
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Masnachwr marchnad yn dathlu 50 mlynedd o fusnes
Busnes ac addysgY cyngor

Masnachwr marchnad yn dathlu 50 mlynedd o fusnes

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 31, 2019 9:09 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Masnachwr marchnad yn dathlu 50 mlynedd o fusnes
RHANNU

Mae ein marchnadoedd yn rhan enfawr o’n hanes.

Maent yn rhan enfawr o fywyd dyddiol yn Wrecsam, ac maent yr un mor bwysig fel mannau i bobl gwrdd a chymdeithasu ag y maent fel mannau i brynu a gwerthu.

Yr wythnos ddiwethaf, roedd un o’n masnachwyr yn creu hanes, drwy ddathlu 50 mlynedd o fasnachu parhaus o dan un to.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Roedd Mohammed Anwar, perchennog Anwar Fashionwear, siop gwisg ffansi, ategolion a dillad yn ymwneud â Chymru yn y Farchnad Gyffredinol ar Stryt Henblas, yn dathlu 50 mlynedd o fasnachu a’i ben-blwydd yn 80 ddydd Mercher, 25 Gorffennaf.

Sefydlodd Mr Anwar y busnes yn y Farchnad Gyffredinol ym 1969 ac mae wedi parhau i fasnachu yno ers hynny.

Nid yw’r busnes wedi symud o’i leoliad yn y farchnad – dros dro hyd yn oed- yn y 50 mlynedd diwethaf.

Yn ystod y blynyddoedd hynny, mae Anwar wedi ehangu gan gymryd mwy a mwy o’r Farchnad Gyffredinol – sy’n cael ei hadnabod yn anffurfiol fel ‘Marchnad Anwar’ gan nifer o breswylwyr Wrecsam.

Dywedodd Mr Anwar:  “Ar ôl masnachu yn Wrecsam yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, rwyf wedi gweld llawer o newidiadau yn y dref.

“Ynghyd â gweld masnachwyr eraill y farchnad yn newid, rwyf wedi gweld nifer o enwau mawr y brif stryd yn mynd a dod.

“Mae wedi bod yn 50 mlynedd ddiddorol iawn – ac nid wyf yn bwriadu ymddeol yn fuan o gwbl!”

Mae Mr Anwar yn rhedeg y siop gyda’i fab Shabab Anwar.

Dywedodd Shabab:  “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl gwsmeriaid dros y blynyddoedd, a rydym eisiau cymryd y cyfle i ddiolch i holl bobl Wrecsam sydd wedi cadw’r busnes ar ei draed.

“Mae nifer o bobl Wrecsam yn adnabod y Farchnad Gyffredinol fel ‘Marchnad Anwar’, felly mae’n dangos fod gennym gadarnle yng nghalonnau pobl Wrecsam, ac rydym yn ddiolchgar iawn”.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Hoffwn longyfarch Mr Anwar am ei 50 mlynedd o fasnachu yn y Farchnad Gyffredinol.

“Dymunaf y gorau iddynt i barhau i fasnachu yn y dyfodol -ac rwy’n siŵr bydd y busnes yn parhau ymhen 50 mlynedd arall”.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cadwch olwg am yrwyr tacsi ffug Cadwch olwg am yrwyr tacsi ffug
Erthygl nesaf Helpwch ni i sicrhau y gall pob un ohonom ddefnyddio mannau cyhoeddus sydd yn ddiogel rhag ymddygiad gwrth gymdeithasol. Mae arnom ni angen eich barn! Helpwch ni i sicrhau y gall pob un ohonom ddefnyddio mannau cyhoeddus sydd yn ddiogel rhag ymddygiad gwrth gymdeithasol. Mae arnom ni angen eich barn!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English