Mae gwaith ar Tŷ Pawb – y ganolfan gelfyddydau, marchnadoedd a chymunedol newydd gwerth £4.2 miliwn yn hen Farchnad y Bobl ar Stryt Caer yn dod yn ei flaen, gyda’r cyfleuster newydd i agor ar Ddydd Llun Pawb ym mis Ebrill.
Rydym ni yn Newyddion Cyngor Wrecsam wedi cael cyfle i edrych o gwmpas gwaith parhaus ar y safle, gyda gwaith strwythurol ac adnewyddu wedi’i wneud gan Wynn Construction – gweler rhai o’r lluniau isod.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Mae ardaloedd stondinwyr unigol wedi’u hadeiladu a’u rhannu, ynghyd ag ardaloedd agored a’r brif oriel.
Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar ffenestr a mynedfa deulawr, a fydd yn caniatáu mynediad a golau i’r adeilad o Stryt y Farchnad.
Mae peintio hefyd wedi dechrau ar du allan yr adeilad, gyda rhagor o waith adnewyddu i ddod.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydym yn gwybod y bydd gwaith yn Nhŷ Pawb o ddiddordeb i’r cyhoedd, a bod pobl yn awyddus i wybod beth sy’n digwydd y tu mewn i’r adeilad wrth i waith gael ei wneud.
“Rwy’n falch iawn o adrodd bod gwaith yn datblygu yn unol â’r amserlen, ac rydym yn dal i fod ar ein targed ar gyfer ein hagoriad swyddogol ar Ddydd Llun Pawb.”
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU