Mae un o uchafbwyntiau addurniadau Nadolig Wrecsam wedi cyrraedd ar ffurf coeden Nadolig enfawr sydd wrthi’n cael ei haddurno ar Sgwâr y Frenhines.

Cyrhaeddodd y goeden ddoe ac fe’i noddir unwaith eto gan Allington Hughes Law. Bydd yn barod cyn bo hir a bydd y goleuadau’n cael eu troi ymlaen yn swyddogol nos Iau.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Bydd y digwyddiad – un o’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yng nghalendr canol y dref – yn cychwyn am 5pm ac yn dod i ben am 8pm. Trefnir yr hwyl gan dîm o wirfoddolwyr o Glwb Rotari Glyndŵr Wrecsam.

Mae yna eisoes restr gyffrous o bobl fydd yn cymryd rhan, sy’n cynnwys:

  • Clwb Pêl-droed Wrecsam
  • Thomas Teago
  • ‘The Phonics’ – band teyrnged i’r Stereophonics
  • Y cantorion April Lee a Damon Jacs
  • Y Frenhines Elsa
  • Corau ysgolion
  • Cynhyrchiad o ‘Elf’
  • Band Before the Storma thri gwestai enwog o bantomeim y Stiwt eleni!

Bydd yno hefyd reidiau ffair, ceirw a stondinau Nadoligaidd, wrth gwrs, a bydd y digwyddiad yn cloi gyda sioe tân gwyllt wefreiddiol.