Mae Bws Taith Dementia Rhith yn dychwelyd i Wrecsam am bedwar diwrnod ym mis Ebrill.
Dyfeisiwyd y Daith Ddementia Rhith 20 mlynedd yn ôl ac mae’n gyfle i unigolyn gydag ymennydd iach gael profiad o ddementia a phrofi byd pobl sy’n byw gyda dementia, er mwyn newid yr amgylchedd a’u harferion i ganiatáu i bobl gyda dementia aros yn eu cartrefi yn hirach a gwella eu gofal.
Wrth gerdded yn esgidiau unigolyn gyda dementia, gallwn ddechrau deall y problemau maent yn eu profi bob dydd. Byddwch yn profi teimladau o fod yn ddryslyd, ar goll, yn ofnus, bregus a llawer mwy, ac felly yn deall beth sydd arnoch chi angen ei newid i wella safonau gofal.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’r bws dementia yn unigryw gan ei fod yn rhoi cyfle i chi gerdded yn esgidiau rhywun sy’n byw gyda dementia. Gallwch ddechrau deall y materion gwahanol maent yn eu hwynebu bob dydd. Byddwch yn profi teimladau o fod yn ddryslyd, ar goll, yn ofnus, bregus a llawer mwy, ac felly yn deall beth sydd arnoch chi angen ei newid i wella safonau gofal.
“Os oes gennych chi anwylyn sy’n byw gyda dementia, neu os hoffech chi fwy o wybodaeth a gwella’ch dealltwriaeth o fyw gyda dementia, cysylltwch â’r tîm ac archebwch le ar y bws.”
Bydd y bws yn y lleoliadau canlynol:
- Eglwys Gynulleidfaol Gwersyllt – dydd Mercher 24 Ebrill
- Canolfan Hamdden Plas Madoc – dydd Iau 25 Ebrill
- Y Llew Gwyn, Holt – dydd Gwener 26 Ebrill
- Tesco, Ffordd Cilgant, Wrecsam – dydd Sadwrn 27 Ebrill
I archebu lle anfonwch neges i commissioning@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 292066.
Mae’r sesiynau yn 2.5 awr o hyd ac mae slotiau amser gwahanol ar gael ymhob lleoliad. Ffoniwch i gael rhagor o wybodaeth.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN