Mae llawer ohonom yn ceisio bod yn fwy heini ac iach yn 2019…
Mae’n siŵr bod llawer ohonoch yn meddwl tybed faint o galorïau yr ydych wedi’u llosgi i’ch helpu i gyrraedd eich nod.
Mae gwahanol ffyrdd o wneud hyn, ond yn aml mae’n nhw’n ddrud.
Ond nid oes angen gwario arian i ganfod hyn o reidrwydd…
Wyddoch chi bod nifer o lwybrau cerdded ym Nyfroedd Alun a Pharc Gwledig Tŷ Mawr wedi cael eu harolygu’n broffesiynol i roi gwybod i chi faint o galorïau y byddwch yn eu llosgi wrth eu cerdded?
Mae hyn yn wir ac mae taflen wych ar gael i’w lawrlwytho ar ein gwefan sy’n rhoi gwybodaeth fanwl i chi.
Mae olion traed lliwgar yn marcio pob llwybr ar y mapiau, ac mae cylch calorïau yn dweud wrthych faint o galorïau y byddwch yn eu llosgi, yn ôl eich pwysau, ar bob llwybr. Nid oes gwahaniaeth pa mor gyflym yr ydych yn cerdded na pha mor hir yw’ch coesau 😉
Felly ble mae’r llwybrau? Dyma amlinelliad cryno…
Dyfroedd Alun
Yn Nyfroedd Alun, ar ochr Gwersyllt, mae tri llwybr… melyn (0.6 milltir), oren (1.4 milltir), a gwyrdd (0.9 milltir).
Mae pob un o’r llwybrau hyn yn dechrau o’r maes parcio o flaen y Ganolfan Ymwelwyr ac mae olion traed lliw wedi’u cerfio ar byst pren yn dangos y ffordd.
Neu, os ydych yn dod i Ddyfroedd Alun o ochr Llai, mae llwybr glas (0.7 milltir), coch (1.6 milltir) a phiws (1.8 milltir).
Dyma fideo o’n taith gerdded yn Nyfroedd Alun y llynedd:
Tŷ Mawr
Yn Nhŷ Mawr, mae dau lwybr ar gael… llwybr melyn Tŷ Mawr (0.9 milltir), neu lwybr coch hirach y Draphont Ddŵr (2.6 milltir). Mae’r ddau lwybr yn dechrau o’r Ganolfan Ymwelwyr.
Dyma fideo o’n taith gerdded yn Nhŷ Mawr y llynedd:
Dylai hynny fod yn ddigon o wybodaeth i’ch rhoi ar ben ffordd… neu lwybr ddylen ni ei ddweud 😉
Welwn ni chi yno!
Siaradwr Cymraeg? Helpwch ni i wella ein gwasanaethau Cymraeg.
CWBLHEWCH EIN HYMGYNGHORIAD RŴAN