Mae’r moch bach Kunekune wedi dwyn calonnau staff ac ymwelwyr i Barc Gwledig Tŷ Mawr ac maent yn ymgartrefu’n dda!
Gofynnwyd i staff y parc ofalu amdanynt gan ddynes gyda thyddyn a’u hachubodd rhag y lladd-dy. Neidiodd y staff ar y cyfle ar ôl gofalu am y math yma o foch o’r blaen.
Eu henwau yw Taz a Toto ac maent yn fechgyn llawn cymeriad ac wrth eu boddau yn cael crafu eu cefn a thu ôl i’w clustiau.
Gwybodaeth am y Kunekunes
Mae moch Kunekune yn dod o Seland Newydd ac yn foch blewog cyfeillgar mewn lliwiau amrywiol. Rhain yw’r math lleiaf o foch dof. Mae ganddynt dymer da ac mae’n hawdd iawn delio â nhw.
Felly os ydych yn chwilio am rywle i fynd i weld rhywbeth gwahanol, ewch i Barc Gwledig Tŷ Mawr i weld yr anifeiliaid cyfeillgar hyn eich hun!
Noddi Anifail ym Mharc Tŷ Mawr
Wyddoch chi y gallwch noddi unrhyw un o’r anifeiliaid yma yn Nhŷ Mawr?
Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Darganfyddiadau Rhufeinig anhygoel yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

