Wrth i Nos Ystwyll nesáu bydd llawer ohonoch yn brysur yn tynnu eich addurniadau Nadolig i lawr.
Os oes gennych goeden Nadolig go iawn gallwch ddefnyddio’r bin ailgylchu gwyrdd neu fynd a hi i unrhyw un o’r tri chanolfan ailgylchu gwastraff tŷ (archebu lle yn hanfodol ym Mrymbo).
Mae Canolfan Ailgylchu Lôn y Bryn ar agor 8am – 8pm
Mae Canolfan Ailgylchu Plas Madoc ar agor 9am – 4pm
Mae Canolfan Ailgylchu Brymbo ar agor 9am – 4pm
Yn ystod y cyfyngiadau Covid-19 presennol efallai y bydd yn rhaid aros yn ystod amseroedd prysur a byddwch angen dangos prawf o’ch preswylfa.
Er mwyn trefnu apwyntiad ar gyfer safle Brymbo, ffoniwch 01978 801463 rhwng 8am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener. Ar ôl i chi gyrraedd y cyfleuster, bydd eich enw a’ch rhif cofrestru’n cael ei gofnodi fel cyfeirnod ar gyfer eich slot archebu. Gofynnir i chi ddangos prawf o’ch preswylfa ar y safle.
Mae Tŷ’r Eos hefyd yn cynnig casgliad ailgylchu Coed Nadolig mewn rhai ardaloedd penodol am gyfraniad bychan. Cewch fwy o wybodaeth yma: https://www.nightingalehouse.co.uk/event/tree/
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Hoffwn ddiolch i bawb am barhau i ailgylchu a chael gwared ar eu Coeden Nadolig yn gyfrifol.”
CANFOD Y FFEITHIAU