Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hyfforddiant Hofrenyddion Chinook yng Ngogledd Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Hyfforddiant Hofrenyddion Chinook yng Ngogledd Cymru
Pobl a lleArall

Hyfforddiant Hofrenyddion Chinook yng Ngogledd Cymru

Diweddarwyd diwethaf: 2023/07/12 at 4:36 PM
Rhannu
Darllen 2 funud
Chinook
RHANNU

Bydd tri hofrennydd Chinook o Sgwadron 28 (Cydweithrediad y Fyddin), RAF Benson yn gweithredu o RAF y Fali rhwng 24 Gorffennaf a 4 Awst 2023, er mwyn cynnal hyfforddiant hanfodol â chriwiau yn ystod Ymarfer KUKRI DAWN. 

Yr hyfforddiant yw rhan olaf hyfforddiant yr Uned Trosi Gweithredol dan arweiniad Sgwadron 28 (Cydweithrediad y Fyddin), sy’n sicrhau bod criwiau’n cael eu profi mewn amgylcheddau heriol ac anghyfarwydd, cyn cael eu lleoli ar sgwadronau rheng flaen. Bydd yr awyren yn gweithredu mewn ardaloedd o amgylch RAF y Fali, ond byddant hefyd yn teithio dros Lerpwl, Manceinion, Leeds, Swydd Efrog a Middlesbrough yn eu gweithgareddau. 

Mae’r hyfforddiant yn darparu sgiliau allweddol i beilotiaid ac aelodau’r criw weithredu’r hofrenyddion Chinook ar weithgareddau yn y DU a thramor. Mae’r sgiliau’n cynnwys hedfan patrymog, hyfforddiant ar lefel isel, dynwared mudo clwyfedigion a hyfforddiant cyswllt â’r Timau Achub Mynydd. Mae cam gweithredol y cwrs yn benllanw misoedd o hyfforddiant i’r myfyrwyr, ac os bydd popeth yn iawn, byddant yn dychwelyd i RAF Benson yn barod i raddio. 

Efallai y bydd yr hofrenyddion Chinook yn gweithredu mewn parau ar lefel isel

Byddant yn hedfan yn ystod oriau gwaith arferol RAF y Fali, rhwng 0900 a 1700, ac ni ddisgwylir unrhyw hedfan gyda’r nos. Ar brydiau, efallai y bydd yr hofrenyddion Chinook yn gweithredu mewn parau ar lefel isel ac o bosib y byddant hefyd yn hyfforddi mewn amgylchedd trefol. Dyma ddwy sgil allweddol i’r criwiau. Gwneir pob ymdrech i leihau unrhyw ôl-troed sŵn. Gall y sawl sy’n marchogaeth ceffylau sicrhau eu bod yn cael eu gweld gan griwiau awyr, trwy wisgo dillad llachar. 

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae RAF y Fali yn darparu safle gweithredu blaengar ar gyfer yr Uned Trosi Gweithredol, a chefnogir yr hyfforddiant ymhellach trwy gyflwyno’r criwiau i weithredu mewn amgylchoedd anghyfarwydd a gwahanol.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Hyfforddiant Hofrenyddion Chinook yng Ngogledd Cymru

Rhannu
Erthygl flaenorol Library Car Park Maes Parcio Cyngor Wrecsam – ffyrdd hawdd i dalu
Erthygl nesaf Erthygl Gwadd: Network Rail- cwbwlhau gwaith cynnal a chadw hanfodol i’r trac... Erthygl Gwadd: Network Rail- cwbwlhau gwaith cynnal a chadw hanfodol i’r trac…

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle Awst 5, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 5, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Lucy Cowley
DigwyddiadauPobl a lle

Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni

Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 5, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English