Mae atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bwysig mewn unrhyw dref neu ddinas, ond yn Wrecsam mae un hyfforddwr yn ceisio mynd i’r afael â’r mater drwy chwaraeon.
Mae Andrew Ruscoe yn hyfforddwr pêl-droed llwyddiannus sydd wedi helpu i godi Brickfield Rangers yn Wrecsam a’i gynllun BR in the Community o dîm cyffredin i dîm pwerus yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.
Mae’r hyfforddwr 31 oed wedi ei eni a’i fagu yn Wrecsam, a bu’n chwarae i Brickfield, Cefn Druids a Chester City yn ei ddydd.
Mae’n teimlo y gall chwaraeon chwarae rôl hanfodol o ran llywio pobl ifanc oddi wrth ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac – fel rhan o BR in the Community – mae’n cyflwyno prosiect pêl-droed ar gyfer ysgolion.
“Nid oes bai ar neb, ond rwy’n meddwl bod plant yn cael eu harwain i ymddwyn yn wrthgymdeithasol weithiau”, meddai Andrew.
“Felly rwy’n meddwl mai dyma’r amser gorau i ddechrau cyflwyno’r math yma o waith mewn ysgolion lleol.
“Os gall lywio rhai plant drwy eu cynnwys mewn gweithgareddau pêl-droed, yna rwy’n barod i wneud hynny. Bydda i’n gwneud hynny i ysgolion am ddim.”
Ffordd wych o gynnwys plant
Ysgol Gynradd Brynteg yw un o’r ysgolion sy’n cymryd rhan.
Meddai’r athro Blwyddyn Chwech, Shaun Valentine: “Mae’n rhaid mai dyma’r trydydd neu’r pedwerydd tro i Andy ddod i’n hysgol ac mae o bob amser yn wych, ond roedd yn grêt ei gael yn yr ystafell ddosbarth am ran o’r sesiwn y tro hwn hefyd.
“Rydyn ni’n methu aros i gael bod yn rhan o’r prosiect ac yn teimlo bod defnyddio diddordeb mewn pêl-droed yn ffordd wych o gynnwys plant yn y drafodaeth ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, am nad yw’n rhywbeth y bydden ni’n ei gynnwys yn y cwricwlwm fel arfer.
“Roedd y sesiwn yn rhyngweithiol ac yn ennyn diddordeb y plant yr holl amser, tra’n cyfleu negeseuon pwysig iddyn nhw – nid yn unig o ran beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol – ond hefyd yr effeithiau posibl ar y gymuned.”
Gwreiddiau cymunedol
Nid dyma’r tro cyntaf i Andrew ddefnyddio pŵer pêl-droed i helpu pobl a chymunedau.
Yn ogystal â helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae Andrew yn cynnal prosiectau i helpu i fynd i’r afael â materion iechyd, hyrwyddo pêl-droed i ferched, pêl-droed cerdded a llawer mwy.
A bellach mae 32 o dimau yn cynrychioli Brickfield. Er na ddaeth heb rywfaint o ofid, meddai cefnogwr CPD Wrecsam.
“Gall clybiau fel Brickfield Rangers ddarparu llawer”, meddai Andrew.
“Dywedodd llawer ar y dechrau na fyddai cynllun pêl-droed yn gymuned a thîm amateur trydedd haen yn gweithio, ond fe ddywedais i y byddai ac rwyf wedi profi y byddai.
“Rwy’n teimlo angerdd i roi yn ôl i bobl a’r gymuned.”
Mae Brickfield wedi ennill gwobr Clwb Cymunedol Cymreig y Flwyddyn yn y gorffennol, ac mae Andrew wedi ennill gwobr Hyfforddwr y Flwyddyn yng ngwobrau chwaraeon Cyngor Wrecsam yn 2016, ynghyd â Gemma Owen o Racecourse Foundation CPD Wrecsam.
Am wybod mwy am BR in the Community? Cliciwch yma