Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Nigel Williams “Daeth ein bolardiau rheoli traffig yng nghanol y ddinas yn weithredol ddydd Llun.
“Ers hynny rydym wedi cael dau yrrwr yn cyflawni troseddau traffig symudol trwy geisio cael mynediad i’r parth i gerddwyr heb-ganiatâd. “Bu’r ddau achos yn arwain at wrthdrawiad gyda’r bolardiau a difrod i’w cerbydau.
“Mae yna wedi bod ymdrechion i ‘sleifio drwy’ lle mae cerbyd nad oes ganddo hawl i fynediad i’r stryd fawr wedi dilyn cerbyd sydd â caniatad, ac mae hyn wedi arwain at ddifrod costus diangen i’r cerbyd.
“Mae’r bolardiau wedi cael eu harchwilio i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn dal yn weithredol.
“Os nad oes gennych ganiatâd i gael mynediad i ganol y ddinas ar ôl 11.30am mewn cerbyd yna ni fydd y bolardiau yn caniatáu mynediad.
Mae arwyddion a chyfathrebu priodol ynghylch y newidiadau wedi’u cyhoeddi.
“Rydym yn annog gyrwyr i ymgyfarwyddo â’r system newydd, i fod yn ymwybodol o newidiadau a pharchu’r arwyddion.
Rhannwyd nodyn atgoffa gan y Cyngor ddoe Peidiwch ag anwybyddu’r system un ffordd newydd – Peidiwch ag anwybyddu’r system unffordd newydd – Newyddion Cyngor Wrecsam