Enw’r Prosiect: A5 Traphont Afon Ceiriog
Gwaith Arfaethedig: Gwaith Brys i Atgyweirio Cymalau Ehangu Dec Pont
Dyddiad Dechrau’r Rhaglen: Dydd Llun 20:00, 11 Mai 2020
Dyddiad Cwblhau’r Rhaglen: Dydd Gwener 06:00 15 Mai 2020
Mae angen cau’r ffordd gerbydau a nodir yn y tabl isod yn llwyr er mwyn cynnal y gwaith arfaethedig yn ddiogel.
Y rhaglen arfaethedig o gyfyngiadau rheoli traffig:
Cau’r A5 yn llwyr i’r ddau gyfeiriad rhwng Cylchfan Gledrid a Chylchfan Halton.
Dargyfeirir yr holl draffig ar hyd y B5070 Ffordd y Waun
Dyddiad ac amser dechrau 20.00 11.05.2020 **
Dyddiad ac amser gorffen 06.00 15.05.2020 **
** mae’r dyddiadau yn rhai amodol, a gallent newid.
Ceir gwybodaeth bellach ynghylch y prosiect hwn, gan gynnwys diweddariadau cyson, ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth Traffig Llywodraeth Cymru: www.traffig.cymru.