Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen I-Pads newydd yn cael eu darparu i gadw pobl mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > I-Pads newydd yn cael eu darparu i gadw pobl mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu
Pobl a lle

I-Pads newydd yn cael eu darparu i gadw pobl mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 24, 2020 10:03 am
Rhannu
Darllen 4 funud
ipad
RHANNU

Erthygl gwestai gan “Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru”

Mae cynllun arloesol i ddarparu iPads i breswylwyr cartrefi gofal a chleifion mewn ysbytai er mwyn iddynt allu cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu tra bod ymweliadau’n cael eu cyfyngu yn ystod yr achos coronafeirws yn cael ei lansio gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Disgwylir 365 i-pads gyrraedd cartrefi gofal a wardiau ysbyty ar draws y rhanbarth yr wythnos nesaf, gyda mwy o ddyfeisiau yn cyrraedd yn fuan wedyn.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Tyfodd y syniad o brosiect a oedd yn cael ei gynnal gan y Bwrdd Partneriaeth i ddarparu iPads i gefnogi pobl yn y gymuned i helpu i reoli eu cyflyrau iechyd ac i leihau unigedd cymdeithasol. Gyda’r achosion o coronafeirws, cafodd cyllid awdurdodau lleol ei ailgyfeirio’n gyflym i alluogi prynu rhai iPads ar gyfer ymweliadau rhithiol. Cefnogodd tîm caffael y Bwrdd Iechyd y prosiect drwy gyrchu’r iPads drwy eu cadwyn gyflenwi o fewn ychydig ddyddiau.

Mae Macmillan hefyd wedi buddsoddi fel y gall y prosiect gynnwys wardiau ysbytai a hosbisau ar draws y rhanbarth.

Roedd Canolfan Cydweithredol Cymru yn bartner allweddol yn y prosiect gwreiddiol ac mae wedi darparu cyngor a chymorth i’r tîm i sefydlu’r iPads i’w gwneud mor hawdd â phosibl i’w defnyddio.

Mae cynllun tymor hir ar waith i wneud yn siŵr bod y prosiect gwreiddiol yn gallu parhau a bydd yr iPads yn mynd lle mae’r angen mwyaf yn y gymuned, gyda chefnogaeth Canolfan Cydweithredol Cymru, fel y gall y rhai sy’n eu derbyn manteisio i’r eithaf ar y dechnoleg newydd.

Bydd yr iPads hyn hefyd yn cefnogi’r fenter ‘ Attend Anywhere ‘ sy’n wasanaeth ymgynghori o bell sy’n cael ei gyflwyno ar hyn o bryd gan y Bwrdd Iechyd i feddygon teulu. Bydd pum cartref gofal yn treialu’r cynllun i alluogi ymgynghoriadau iechyd o bell ddigwydd yn y cartrefi hyn.

Mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol hefyd yn gweithio gydag uned cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru sy’n darparu 1,100 o iPads ychwanegol i gartrefi gofal a hosbisau ledled Cymru.

Dywedodd Bethan Jones Edwards, Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol ar ran y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol: “Rydym yn falch iawn o ddod â’r prosiect gwydnwch cymunedol ymlaen yn ein rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol a dod â chyllid ynghyd o grantiau a ddyfarnwyd i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a gyda chyllid Macmillan rydym wedi gallu symud ymlaen yn gyflym ar y prosiect hwn. Rydym yn dosbarthu’r rhain i gartrefi gofal a wardiau dros y dyddiau nesaf.

“Bydd hyn yn galluogi preswylwyr a chleifion i gadw cysylltiad â’u teuluoedd tra na allant dderbyn ymwelwyr ar yr adeg anodd hon. Dyma enghraifft wych o weithio ar y cyd rhwng Awdurdodau Lleol, y Bwrdd Iechyd, Macmillan a chanolfan Cydweithredol Cymru ac mae hefyd yn galluogi’r Bwrdd Iechyd i dreialu ei brosiect ‘Attend Anywhere’.

Mae pryniant y dyfeisiau hyn wedi cael ei groesawu gan Dr Ambalavanan, Meddyg mewn Meddygaeth Resbiradol yn Ysbyty Glan Clwyd: “Fel clinigwyr, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o ganlyniadau ehangach cleifion yn yr ysbyty yn methu â chael mynediad at gefnogaeth eu hanwyliaid yn ystod eu salwch ac adferiad. Er mwyn lleddfu eu trallod (mewn unrhyw ffordd fach bosibl), rydym yn defnyddio’r adnoddau a ddarparwyd i ganiatáu i gleifion gael cyswllt fideo â’u teuluoedd. Rydym hefyd wedi dechrau cyfathrebu â theuluoedd fel gweithwyr proffesiynol i ateb eu hymholiadau gyda chymorth y dyfeisiau hyn”.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol live Gig Nos Wener yn Tŷ Pawb – yn fyw ar Facebook!
Erthygl nesaf Business Support Wrexham A yw eich busnes wedi’i effeithio gan y Coronafeirws?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?
DigwyddiadauPobl a lle

Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English