Mae gwahoddiad i aelodau’r cyhoedd gymryd rhan yng ‘ngorymdaith gyflym’ gyntaf erioed Wrecsam i gefnogi cyn-aelodau o’r lluoedd arfog.
Mae’r orymdaith yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 20 Ebrill – yn cychwyn yn Llwyn Isaf yng nghanol y ddinas am 7:30am, cyn gwau ei ffordd drwy gefn gwlad a’r pentrefi cyfagos a gorffen yn ôl yn Llwyn Isaf tua 10.30am.
Mae’r orymdaith 13.3 milltir (hanner marathon) yn cael ei threfnu gan Woody’s Lodge, elusen o Ogledd Cymru sy’n darparu cefnogaeth a mentora i gyn-aelodau’r lluoedd arfog, cyn-weithwyr y gwasanaethau brys, milwyr wrth gefn a’u teuluoedd.
Bydd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Cefnogwr Lluoedd Arfog Wrecsam, yn ymuno â’r orymdaith am y bum milltir olaf, ac mae wedi bod yn brysur yn ymarfer tipyn cyn y digwyddiad!
Dywedodd y Cynghorydd Parry-Jones: “Mae hwn yn ddigwyddiad arbennig ac yn enghraifft arall o gysylltiadau balch Wrecsam â’r lluoedd arfog.
“Beth am i chi ystyried cymryd rhan? Bydd yr orymdaith yn waith caled ond yn llawer o hwyl hefyd, gyda llawer o gyfeillgarwch ac ymdeimlad o dîm ar y ffordd.
“Neu, os na allwch chi gymryd rhan, beth am noddi rhywun – neu alw draw i Llwyn Isaf i’n cefnogi ni ar y daith? Mae Woody’s Lodge yn elusen hyfryd a bydd pob ceiniog sy’n cael ei chasglu’n gwneud gwahaniaeth.”
Dywedodd Graham Jones, Prif Weithredwr Woody’s Lodge: “Dyma gyfle gwych i’r holl gymdeithasau ac elusennau milwrol ddod ynghyd a dangos y rôl gefnogi bwysig rydyn ni’n ei darparu i gyn-aelodau’r lluoedd arfog a chyn-weithwyr y gwasanaethau brys.
“Rydyn ni’n annog unrhyw un sydd â diddordeb ac sy’n ddigon heini i ymuno â ni yn y digwyddiad yma.
“Taith redeg/orymdeithio o fath milwrol ydi hon, a bydd angen i chi allu cwblhau pellter hanner marathon, gyda seibiannau byr.
“Bydd y llwybr yn mynd trwy Gresffordd, yr Orsedd, rhannau o Llai ac Acton. Rydyn ni’n gwahodd y cyhoedd i alw draw a gweld ein parêd byr i Neuadd y Dref tua 10:30am, ac yna dod i weld amrywiaeth o stondinau elusennau a chymdeithasau ar y lawnt tan tua 4pm.”
Felly… beth amdani? Cofrestrwch ar-lein i gymryd rhan.
Os hoffech chi helpu mewn ffordd arall ar y diwrnod, cysylltwch â fundraising@woodyslodge.org