Wrth i’r tymor ysgol newydd ailddechrau, mae hefyd yn ddechrau newydd i ddynes ysbrydoledig sydd wedi dechrau ei swydd ddelfrydol mewn ysgol uwchradd yn Wrecsam wedi iddi ennill gradd yn 51 mlwydd oed.
Wedi gyrfa eang ac amrywiol, o weithio mewn ffatri, bwytai bwyd cyflym, i ymddangos ar y teledu, llwyddodd Karen Morris i gael swydd gyntaf fel technegydd gwyddoniaeth yn Ysgol Clywedog, wedi iddi raddio o Brifysgol Glyndŵr gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn gwyddoniaeth fforensig.
Er bod Karen wastad eisiau bod yn wyddonydd, ni aeth i’r brifysgol yn 18 oed yn sgil amgylchiadau amrywiol. Yn hytrach, canolbwyntiodd ar ei gwaith a’i theulu, gyda’r bwriad o gwblhau ei haddysg rhyw ben yn y dyfodol.
Yn 47 mlwydd oed, penderfynodd Karen o’r diwedd fod yr amser yn iawn i fynd i’r brifysgol, ond roedd yn poeni ei bod wedi ei adael yn rhy hwyr. Dywedodd: “Roedd fy nheulu yn anghytuno ac yn fy annog i wneud cais am gwrs yr oeddwn yn ei hoffi. Ers yn ifanc iawn, rwyf wedi mwynhau pob agwedd o wyddoniaeth, yn enwedig wedi i mi ddarllen am fywyd a gyrfa anhygoel Marie Curie.
“Er fy mod wrth fy modd â chemeg, roeddwn i eisiau gwneud cwrs fforensig, gan nad oeddwn yn sicr o’r yrfa yr oeddwn i eisiau ar y diwedd. Wedi i mi ymchwilio ar-lein, roedd Prifysgol Glyndŵr i weld yn cynnig y cwrs orau i mi; BSc mewn gwyddoniaeth fforensig, gyda blwyddyn ychwanegol yn gwneud gradd sylfaen gan fod degawdau ers i mi fod mewn ystafell ddosbarth.
”Cefais y pedair blynedd fwyaf anhygoel fy mywyd yn y brifysgol! Roedd y cwrs yn hynod o ddiddorol ac amrywiol, gyda’r tiwtoriaid yn fy nghefnogi drwy gydol fy astudiaethau.
“Wrth i’r tymor olaf nesáu, roedd rhaid i mi benderfynu ar y math o swydd yr oeddwn am ymgeisio amdani. Roeddwn yn gwybod fy mod eisiau gweithio mewn labordy, ac roedd yn bwysig i mi allu gweithio mewn amgylchedd cyfeillgar.
“Felly fe deipiais ‘Technegydd Labordy Wrecsam’ yn Google er mwyn gweld beth fyddai’r canlyniadau. Y canlyniad cyntaf oedd swydd yn Ysgol Clywedog. Doeddwn i ddim yn gallu credu fy lwc! Yr ysgol yma a fynychodd fy merch, felly roeddwn i eisoes yn gwybod ei fod yn le cyfeillgar ac roedd y swydd-ddisgrifiad yn berffaith.
“Dydi’r mathau yma o swyddi ddim yn ymddangos yn aml, ac roedd yr un yma yn cael ei hysbysebu yn sgil ymddeoliad y technegydd presennol. Llenwais y ffurflen gais, mynd i’r cyfweliad a chael cynnig fy swydd ddelfrydol. Alla’ i dal ddim credu pa mor lwcus ydw i.
“Mae pawb mor groesawus a chefnogol. Rwy’n dal i fynd ar goll o amgylch yr ysgol, ond dyma’r swydd ddelfrydol i mi! Rwy’n gobeithio cyflwyno rhai o elfennau o’m gwybodaeth fforensig i rai o’r gwersi yn y dyfodol, ond ar hyn o bryd rwy’n mwynhau’r ffaith fy mod yn cael gwneud cemeg bob dydd.”
Dywedodd Matt Vickery, Pennaeth Ysgol Clywedog: “Mae’n bleser croesawu Karen i’r ysgol. Roedd ei brwdfrydedd am y swydd newydd yn amlwg yn ystod y broses gyfweld, ac rwy’n gwybod y bydd hi’n gaffaeliad mawr i’r adran wyddoniaeth. Rydym i gyd yn dymuno llwyddiant a mwynhad iddi yn ei gyrfa yma yn Ysgol Clywedog.”
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN