Mae Cyngor Wrecsam yn mynd â thai cynaliadwy i’r lefel nesaf yn y fwrdeistref wrth iddo lansio gwaith adeiladu newydd sy’n defnyddio dulliau adeiladu modern – y tro cyntaf erioed i’r Cyngor wneud hynny – ar safle ar Heol Offa, Johnstown.
Bydd y datblygiad yn cymryd lle 2 annedd bâr a ddymchwelwyd, a bydd bloc deulawr o fflatiau yn cael ei adeiladu a fydd yn cynnwys fflatiau un ystafell wely.
Y nod yw gorffen y gwaith adeiladu yn nechrau 2025, a bydd yn cynnig cartrefi hirdymor ar gyfer preswylwyr meddiannaeth unigol neu gyplau, yn unol â Pholisi Dyrannu Cyngor Wrecsam.
Bydd yna dri fflat ar y llawr gwaelod, a fydd yn cynnig cyfleusterau hygyrch y gellir eu haddasu, a bydd tri fflat ar y llawr cyntaf.
Bydd y fflatiau ar y llawr gwaelod yn cynnig mynediad allanol uniongyrchol i’r ardd gymunedol yng nghefn yr adeilad, a fydd yn rhoi mynediad hawdd i awyr iach a lle i gymdeithasu pan fo’r tywydd yn braf.
Bydd y cartrefi gwyrdd hyn yn cynhyrchu llai o allyriadau carbon na chartrefi a adeiladwyd yn unol â’r Rheoliadau Adeiladu cyfredol, a byddant yn defnyddio technoleg newydd ar gyfer gwresogi, systemau dŵr poeth a lleihau gwastraff gwres.
Bydd cael gwared â gwastraff yn hawdd i breswylwyr ac i gerbydau casglu gwastraff, oherwydd bydd yno ardal ddiogel i gadw gwastraff.
Darperir gofodau parcio ar gyfer 9 o geir ar y safle. Bydd hyn yn galluogi preswylwyr ac ymwelwyr i gael cyfleusterau hygyrch ar gyfer parcio ceir.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol Tai, “Rwy’n croesawu’r prosiect hwn i adeiladu tai Cyngor newydd yn Johnstown, ac mae’r cyllid wedi ei gymeradwyo yn rhan o’n rhaglen gyfalaf flynyddol.
“Er bod oedi wedi bod i’r prosiect hwn, croesewir y cartrefi newydd hyn yn fawr. Rydym yn gobeithio bod ar y safle’n fuan iawn, ac edrychaf ymlaen at gael gweld tai Cyngor newydd yn cael eu hadeiladu a fydd yn rhan o’n stoc dai.”