Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC), sy’n darparu holl wasanaethau gofalwyr di-dâl ar ran Cyngor Wrecsam, newydd ryddhau ei newyddlen ddiweddaraf sy’n cynnwys llwyth o wybodaeth ddefnyddiol i ofalwyr di-dâl yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys manylion am nifer o ddigwyddiadau sydd ar y gweill yn Wrecsam yn ystod y gwanwyn.
Os ydych chi’n ofalwr di-dâl a bod gennych ddiddordeb mewn unrhyw ddigwyddiad, gallwch neilltuo eich lle drwy fynd ar www.newcis.org.uk/events, neu gallwch ffonio 01352 752525 (gweler y newyddlen am fanylion llawn).
Digwyddiadau i ofalwyr di-dâl
Sut i wneud atwrneiaeth arhosol
Cyfle i gael arweiniad gan gyfreithiwr cymwys o Celtic Law Ltd ar y broses o lunio dogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i chi benodi eraill i wneud penderfyniadau ar eich rhan.
Dydd Mercher 1 Mawrth, 10am.
Yn: GOGDdC, 3A Edison Court, Parc Technoleg Wrecsam, LL13 7YT
Gweithdy ‘Pam wyf i’n ofalwr?’
Sgwrs gyda’r cwnselydd preswyl Judith Keefe i helpu gofalwyr i ddeall a gwerthfawrogi eu rolau gofalu yn well, gan ddeall yn llawn yr heriau y maent yn eu hwynebu. Mae’r gweithdy’n cynnwys lluniaeth.
Dydd Iau 2 Mawrth, 9:30am-12:30pm.
Yn: GOGDdC, 3A Edison Court, Parc Technoleg Wrecsam, LL13 7YT
Caffi Trwsio Cymru – Digwyddiadau dros dro
Mae Caffi Trwsio Cymru yn annog cymunedau i weithio tuag at Economi fwy Cylchol, gan greu diwylliant o drwsio ac ailddefnyddio. Sylwer mai dim ond sesiwn wybodaeth yw hon lle gallwch ddarganfod mwy am y gwasanaeth, ni fyddwch yn gallu cael eich eitemau wedi’u trwsio yn y sesiwn, ond gallwch ofyn am y broses!
Dydd Mawrth 7 Mawrth, 10am – 12pm.
Yn: GOGDdC, 3A Edison Court, Parc Technoleg Wrecsam, LL13 7YT
Teithiau o amgylch Gorsaf Dân
Ydych chi awydd bod yn ddiffoddwr tân neu ond eisiau dod o gwmpas am daith rad ac am ddim? Ymunwch â’r daith hwyliog ac addysgiadol hon o amgylch yr orsaf dân, cyfarfod â’r criw, edrych ar yr injan dân a’r offer, a hyd yn oed roi cynnig ar eich sgiliau gyda’r bibell ddŵr!
Dydd Gwener 24 Mawrth, 2pm.
Yn: Ganolfan Adnoddau Gwasanaethau Ambiwlans a Thân (AFSRC) ar Ffordd croesnewydd Wrecsam LL13 7SU
Sgwrs ar Ddiogelwch Tân
Bydd James Roberts o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhoi sgwrs addysgiadol am ddiogelwch tân yn y cartref a phethau y gallwch eu gwneud i leihau risg.
Dydd Gwener 21 Ebrill, 10:30am – 1pm.
Yn: GOGDdC, 3A Edison Court, Parc Technoleg Wrecsam, LL13 7YT
Bwyta’n ddoeth, arbed yn well!
Mae Bwyta’n Ddoeth, Arbed yn Well yn sesiwn awr o hyd sy’n archwilio ffyrdd o fwyta’n iach, defnyddio cynhwysion sydd gennych yn y cwpwrdd a rhoi awgrymiadau i arbed arian wrth siopa bwyd.
Dydd Mawrth 23 Mawrth, 1:30pm – 3pm.
Yn: GOGDdC, 3A Edison Court, Parc Technoleg Wrecsam, LL13 7YT
Hanes Wrecsam – taith dywysedig
Ewch ar daith dywysedig hanesyddol o amgylch Wrecsam gyda’r tywysydd teithiau lleol Phil (sydd â 14 mlynedd o brofiad). Addysgiadol a llawn hwyl!
Hyd y daith: 1.5 awr.
Cost: £5 y gofalwr (mae GOGDdC yn talu £2.50, rydych chi’n talu £2.50)
Dydd Mawrth 23 Mai, 10am.
Man cyfarfod a lleoliad cinio i’w gadarnhau.
Ymweliadau â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae GOGDdC wedi cynllunio rhai ymweliadau â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel rhan o’i raglen lles a hoffem pe baech yn ymuno â nhw. Byddwch yn cael eich tywys o gwmpas gan dywysydd teithiau gwirfoddol, ac yna gallwch archwilio ar eich pen eich hun.
Neuadd Erddig – Dydd Mercher 12 Ebrill
Castell y Waun – Dydd Iau 11 Mai.
‘Happy Mondays’
Mae’r grŵp cyfeillgar hwn sy’n cael ei arwain gan gyfoedion yn rhoi cyfle i chi greu cyfeillgarwch a chysylltu ag eraill sy’n deall y rôl gofalu, wrth rannu sgyrsiau o ddiddordeb.
Pob dydd Llun (ac eithrio Gwyliau Banc a gwyliau ysgol), 11am-1pm.
Yn: Hwb Lles , Adeiladau’r Goron, Wrecsam, LL13 8BG.
Boreau coffi wythnosol
Hoffech chi gael seibiant o’ch rôl ofalu? Dewch draw am baned a sgwrs. Mae’r grwpiau’n ffynnu ar y cymorth ar y cyd a gynigir i’w gilydd – a phaned neu ddwy!
Pob dydd Mawrth – 9:30am – 12:30pm.
Yn: GOGDdC, 3A Edison Court, Parc Technoleg Wrecsam, LL13 7YT
Clwb cinio gofalwyr Dementia
Ydych chi’n gofalu am rywun sy’n byw gyda dementia? Ymunwch â’r grŵp cymorth poblogaidd a chyfeillgar hwn am sgwrs a ‘chinio ysgafn’. £5 am 2 gwrs, £7 am 3 chwrs.
Archebwch ar-lein a dewiswch eich prydau bwyd yn:
www.newcis.org.uk/wrexham-dementia-carer-group
Dydd Mercher 29 Mawrth, 12:30pm – 2:30pm neu ddydd Mercher 26 Ebrill, 12:30pm – 2:30pm.
Yn: Wynnstay Arms, Wrecsam, LL13 8LP
Grŵp rhieni sy’n ofalwyr
Ar gyfer gofalwyr sy’n gofalu am blentyn ag anghenion ychwanegol. Mae’r grŵp ar gyfer gofalwyr yn unig fel ffurf o gymorth a seibiant.
Cyfarfod nesaf: dewch draw i glywed gan SNAP Cymru yn egluro’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd yng Nghymru, gyda chyfle i ofyn cwestiynau:
Dydd Iau 16 Mawrth, 10am-1pm.
Yn: Canolfan Gymunedol Plas Pentwyn, Heol y Castell, Wrecsam LL11 3NU
Gofalu am rywun ag anawsterau dysgu
Grŵp cymorth i ofalwyr sy’n gofalu am rywun ag anhawster dysgu.
Dewch draw i ymuno â Walkabout Wrecsam a’r Cylch ynghyd â Swyddog Lles GOGDdC, Maxine am daith hamddenol ac i gael gwybod am y teithiau tywys rheolaidd eraill yn y sir.
Dydd Mercher 15 Mawrth, 10:45am-12:30pm.
Cyfarfod yn: Maes parcio Canolfan Gymunedol Plas Pentwyn, Heol y Castell, Coedpoeth, LL11 3NU.
Grŵp lles meddyliol gofalwyr
Nod y grŵp yw dod â gofalwyr at ei gilydd, cysylltu ag eraill a chael amser i’w hunain.
Cyfarfod nesaf: dewch i ymuno â gofalwyr eraill yng Ngwesty’r Hand – un o’r gwestai hynaf yng Nghymru.
Dydd Mawrth 28 Mawrth, 2pm – 3:15pm.
Yn: Gwesty’r Hand, Y Waun, Wrecsam, LL14 5EY
Mae llawer mwy yn digwydd o amgylch Gogledd Cymru drwy gydol y gwanwyn – edrychwch ar y newyddlen lawn i weld popeth sy’n digwydd.
Gallwch neilltuo lle ar ddigwyddiadau drwy fynd ar http://www.newcis.org.uk/events/, neu gallwch ffonio 01352 752525.
Efallai y bydd angen blaendal ar rai digwyddiadau a grwpiau i sicrhau eich archeb. Bydd GOGDdC yn anfon dolen i dalu ar-lein atoch pan fyddant yn cysylltu â chi i gadarnhau eich lle neu gallwch dalu ag arian parod yn y swyddfa.
Ydych chi’n ofalwr di-dâl?
Ydych chi’n darparu gofal di-dâl i oedolyn neu blentyn anabl? Gallent fod yn aelod o’r teulu neu’n ffrind na all, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth, ymdopi heb eich cymorth. Mae llawer o wybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i chi fel gofalwr di-dâl.
Cysylltwch â GOGDdC – am ragor o wybodaeth ewch ar http://www.newcis.org.uk/contact/
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD