Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Inspire, Gwaith Ieuenctid yn yr Ysbyty yn derbyn cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Rhagoriaeth Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Inspire, Gwaith Ieuenctid yn yr Ysbyty yn derbyn cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Rhagoriaeth Cymru
Y cyngor

Inspire, Gwaith Ieuenctid yn yr Ysbyty yn derbyn cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Rhagoriaeth Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 3:16 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Inspire Youth Work
RHANNU

Mae prosiect Inspire, Gwaith Ieuenctid yn yr Ysbyty wedi derbyn gwobr Dangos Rhagoriaeth mewn Cynllunio a Darparu mewn Partneriaeth ar lefel ryngwladol/genedlaethol yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn ddiweddar.

Mae’r gwobrau yn cydnabod ac yn dathlu prosiectau gwaith ieuenctid rhagorol, gweithwyr ifanc a’r sawl sy’n ymwneud â gwaith ieuenctid ar draws Cymru.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Mae Inspire yn cefnogi pobl ifanc yn Ysbyty Maelor Wrecsam a hefyd yn y gymuned.   Mae’n dîm aml-ddisgyblaethol o weithwyr ifanc a seicolegwyr cynorthwyol sy’n gweithio’n gyfannol ochr yn ochr â phobl ifanc i’w helpu i gyflawni eu hamcanion.

Maent yn cefnogi pobl ifanc 11-18 oed yn byw yn Wrecsam neu Sir y Fflint sy’n ymwneud ag ymddygiad hunan-niweidio, neu’n cael profiad o feddwl am hunan-niweidio neu hunanladdiad. Mae’r tîm yn darparu cefnogaeth un i un i bobl ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio i’r prosiect, ymweliadau dyddiol ar ward i bobl ifanc ar y ward plant am unrhyw reswm yn darparu sesiynau addysg anffurfiol i ysgolion a grwpiau ieuenctid o amgylch iechyd a lles emosiynol a hefyd yn cynnal grwpiau a chlwb ieuenctid sydd wedi cael cefnogaeth gan Inspire.

Mae Inspire yn brosiect partneriaeth rhwng Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae’n anelu i roi grym a hybu annibyniaeth a hyder pob person ifanc tra’n cynyddu strategaethau ymdopi cadarnhaol a gwytnwch.  Mae’n edrych ar fynd i’r afael â’r rhesymau pam bod person ifanc yn hunan-niweidio yn hytrach na delio gyda’r ymddygiad ei hun yn unig.

Mae eu gwaith un i un yn cynnwys ymgysylltu gwirfoddol o tua 8 sesiwn unigol mewn lleoliadau o ddewis y person ifanc, yn canolbwyntio ar beth hoffai pob person ifanc ei gyflawni a beth maent yn deimlo fyddai’n eu helpu ar y pryd.

Dywedodd y Cyng Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, “Llongyfarchiadau i’r tîm am dderbyn y wobr hon a chydnabyddiaeth o ragoriaeth genedlaethol.  Mae’r gwasanaeth maent yn ei gynnig i bobl ifanc yn amhrisiadwy ac rwy’n gwybod bod eu hymrwymiad i helpu pobl ifanc gyflawni eu hamcanion a’u huchelgeisiau yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan ddefnyddwyr a gweithwyr proffesiynol.”

Cynhaliwyd y gwobrau yn Neuadd Brangwyn, Abertawe.

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ukraine Goleuo Neuadd y Dref yn felyn a glas i nodi’r ymosodiad ar Wcráin
Erthygl nesaf Ukraine Rydym ni’n parhau i gefnogi Wcráin wrth nodi blwyddyn ers yr ymosodiad ar y wlad

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English