Ddydd Mercher nesaf (07.08.24), cynhelir y Diwrnod Chwarae – y diwrnod mwyaf ar gyfer plant ar draws Wrecsam i ddod ynghyd a chael amser gwych wrth wlychu a baeddu yn y broses.
Bydd y bocs tywod anferth yn ôl, yn ogystal â chyfleoedd i adeiladu cuddfan, gwibgerti, rhoi cynnig ar y cwrs rhwystrau, osgoi’r llawr lafa, celf, gemau, pêl-fasged a digonedd o ddŵr wrth gwrs!
Mae’r diwrnod chwarae ar gyfer pobl o bob oedran, gan gynnwys babanod a phlant bach, plant hŷn, pobl ifanc yn eu harddegau, rhieni, gweithwyr proffesiynol a neiniau a theidiau, ac estynnir gwahoddiad i bob un ohonoch ymuno yn y digwyddiad chwarae hwn, sy’n rhad ac am ddim.
Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn dod mewn hwyliau chwareus a dillad nad oes ots gennych chi eu gwlychu a’u baeddu. Mae hefyd yn ddiwrnod gwych i gael picnic.
Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, “Mae’r diwrnod chwarae yn ddiwrnod hwyliog o’r flwyddyn yng nghanol y ddinas, a fydd yn orlawn o bobl ifanc a’u teuluoedd. Mae pawb yn cymryd rhan ac yn cael amser gwych, waeth beth fo’r tywydd, ac mae’n cynnig amser a lle diogel i bobl ifanc chwarae.”
Nod y digwyddiad yw tynnu sylw at hawl plant i chwarae, gan annog pobl i gydnabod gwerth chwarae i blant, eu teuluoedd a’u cymunedau lleol. Wrth wneud hyn, mae digwyddiad diwrnod chwarae Wrecsam yn rhan o’n hymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn ar draws y fwrdeistref sirol yn cael digon o amser, lle a chaniatâd i chwarae.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Manylion Sesiynau Nofio Am Ddim yr haf hwn
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch