Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Trenau Wrecsam i Lundain yn bosibilrwydd gwirioneddol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Trenau Wrecsam i Lundain yn bosibilrwydd gwirioneddol
Pobl a lleArall

Trenau Wrecsam i Lundain yn bosibilrwydd gwirioneddol

Diweddarwyd diwethaf: Awst 2, 2024 11:10 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Wrexham General station - Transport for Wales
RHANNU

Mae siwrnai tair awr o Wrecsam i Lundain gam yn agosach heddiw yn dilyn cyfarfod cadarnhaol iawn rhwng Cyngor Wrecsam a Wrexham, Shropshire and Midlands Railway Company Ltd, sy’n cynnig Gwasanaeth Mynediad Agored i’ch cludo i ganol Llundain mewn tair awr.

Mynychodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard a’r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd David A Bithell y cyfarfod a chlywed y cynigion ar gyfer y gwasanaeth sydd wedi’u cyflwyno i Brif Weithredwr Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, John Larkinson.

Yn dilyn y cyfarfod, mae llythyr gan y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd â chyfrifoldeb ar gyfer cludiant strategol, yn rhoi cefnogaeth lawn i’r cynlluniau wedi ei anfon at Brif Weithredwr Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, David Larkinson. Roedd y llythyr yn amlinellu ers y gwasanaeth mynediad agored diwethaf yn Wrecsam, nid oedd y gwasanaethau a gynigwyd yn addas i’r diben gyda dibynadwyedd gwael, achosion o ganslo’n aml a lefel is na’r safon o wasanaethau i deithwyr.

Roedd y llythyr yn annog y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd i gefnogi’r cynigion cyn gynted â bo hynny’n ymarferol er mwyn galluogi preswylwyr ac ymwelwyr i Wrecsam ac ardal ehangach Gogledd Cymru i gael cynnig cludiant cyhoeddus gwirioneddol a fydd yn bodloni’r galw a dyheadau presennol.

“Mae preswylwyr ac ymwelwyr i Wrecsam yn haeddu gwasanaeth rheilffordd o ansawdd uchel”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, “Rwy’n gwbl gefnogol o’r cais hwn gan WSMR a fydd yn gweld siwrneiau rheolaidd o Wrecsam i Euston Llundain.

“Mae’r gwasanaeth presennol yn annigonol ac o ystyried y diddordeb cenedlaethol a rhyngwladol yn Wrecsam, mae gwasanaeth cynaliadwy a dibynadwy yn hanfodol. Rwy’n gobeithio bydd y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd yn edrych ar y cais hwn yn gadarnhaol.

Mae Arweinydd y Cyngor,  Cynghorydd Mark Pritchard a fynychodd y cyfarfod diweddar, yn cefnogi’r cais a dywedodd, “Mae preswylwyr ac ymwelwyr i Wrecsam yn haeddu gwasanaeth rheilffordd o ansawdd uchel a fydd yn gwasanaethu Wrecsam ac ardal ehangach Gogledd Cymru.

“Hoffwn ddiolch i WSMR am eu hamser gwerthfawr yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar eu cynigion ac rwy’n gwbl gefnogol o’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”

Os fydd y cais yn llwyddiannus, bydd y gwasanaeth newydd yn creu 50 o swyddi a dylai’r trenau cyntaf ddechrau yn haf 2025.

Mae’r cais ar gyfer gwasanaeth o bump o drenau bob dydd ymhob cyfeiriad, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, gyda phedwar yn teithio ymhob cyfeiriad ar ddyddiau Sul.

Bydd y trenau’n stopio yng Ngobowen, Amwythig, Telford Canolog, Wolverhampton, Darlaston, Walsall, Coleshill Parkway, Nuneaton a Milton Keynes ar eu siwrnai rhwng Wrecsam Cyffredinol ac Euston Llundain.

Dywedodd Darren Horley, Cyfarwyddwr Symudedd WSMR yn Alstom, “Rydym yn falch o dderbyn cefnogaeth bellach gan Gyngor Wrecsam ar gyfer ein gwasanaeth rheilffordd arfaethedig rhwng Gogledd Cymru a Llundain. Mae ein cynnig wedi’i ddylunio i leihau amser teithio rhwng Wrecsam a Phrif Ddinas Lloegr, a gwella profiad i deithwyr gyda gwasanaeth dibynadwy ac o ansawdd uchel.

“Mae’r prosiect hwn hefyd yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol mewn cysylltedd rhwng Gogledd Cymru a Lloegr. Rydym yn gyffrous am yr effaith gadarnhaol bydd hyn yn ei gael ar yr economi ar hyd y llwybr ac edrychwn ymlaen at chwarae ein rhan i helpu Wrecsam ffynnu ymhellach.

“Gwerthfawrogwn y gefnogaeth gan arweinwyr y Cyngor lleol – gan gynnwys y Cynghorwyr Mark Pritchard a David A Bithell – ac wedi ymrwymo i wneud y weledigaeth yn realiti o’r flwyddyn nesaf ymlaen.”

Wrexham London Trains

Llun gan WSMR

Y Llwybr Arfaethedig

  • Wrecsam
  • Gobowen
  • Amwythig
  • Wellington
  • Telford
  • Wolverhampton
  • Darlaston
  • Walsall
  • Coleshill
  • Nuneaton
  • Milton Keynes
  • Euston

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Data Newydd yn Amlygu’r Twf Mwyaf Erioed yn Sector Twristiaeth Wrecsam!

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

TAGGED:LondonTrainswrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol Playday Mae llai nag wythnos i fynd tan y Diwrnod Chwarae 7 Awst 12 – 4.
Erthygl nesaf Llogwch Tŷ Pawb ar gyfer eich digwyddiad! Llogwch Tŷ Pawb ar gyfer eich digwyddiad!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam

Medi 29, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English