Bydd perfformiadau cerddoriaeth fyw yn cychwyn unwaith eto yn Tŷ Pawb ddydd Iau yma, 9 Ionawr, pan fydd Peter Leslie – sy’n defnyddio’r enw llwyfan Pete Spesh, yn dod a’i dalent arbennig i’r llwyfan am 1pm.
Mae Pete yn ganwr/cyfansPerfformiadau Cerddoriaethoddwr sydd wedi cael ei ddylanwadu arno gan gerddorion megis James Taylor, Paul Simon, Cat Stevens a Neil Young a bydd yn perfformio ei ganeuon ei hun gydag un neu ddwy o’i ffefrynnau gan artistiaid eraill.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
“Mwy o Berfformiadau Byw i Ddod”
Gallwch weld beth sydd i ddod dros weddill misoedd y gaeaf isod:
Ionawr 16, Poppy Lee o Gaer – cantores
Ionawr 23, Mair Thomas o Groesoswallt –
cantores/cyfansoddwr
Ionawr 30 – Belle Journee o Ddinbych – gitâr, harmonica a llais.
Chwefror 6 – Tim Jones a Myfyrwyr Cerddoriaeth Lefel A Coleg Cambria
Chwefror 13, Philip Chidell – Feiolinydd Clasurol
Chwefror 20, Miriam Peake a’i Ensemble Ffliwt
Bydd y Perfformiadau Cerddoriaeth Fyw yn digwydd bob dydd Iau a gellir eu mwynhau am ddim.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN