Ym mis Medi, bydd Llywodraeth Cymru’n cyflwyno’r terfyn cyflymder is o 20mya ar hyd a lled Cymru. Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am yr hyn sydd ynghlwm â’r newidiadau a pham wnaed y penderfyniad.
Bydd y terfyn cyflymder newydd fwyaf perthnasol i ffyrdd preswyl neu strydoedd prysur i gerddwyr, felly o 17 Medi, pan welwch olau stryd, dylech dybio bod terfyn cyflymder o 20mya mewn grym, oni bai fod yna arwyddion yn nodi fel arall.
Gwnaed y penderfyniad i newid y terfyn cyflymder i 20mya er mwyn:
- gwneud ein strydoedd yn fwy diogel, lleihau’r nifer o bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu (yn ogystal â lleihau’r effaith ar y GIG)
- annog mwy o bobl i gerdded a beicio
- helpu i wella ein hiechyd a’n lles
- diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodo
Amcangyfrifir y bydd y drefn newydd 20mya yn arbed tua £92 miliwn ym maes gofal iechyd yn ystod y flwyddyn gyntaf yn unig, ac yn atal 6-10 marwolaeth bob blwyddyn.
Mae cyflymder traffig is hefyd yn annog mwy o gerdded a beicio, gan mai cyflymder cerbydau yw un o’r prif resymau nad yw pobl yn cerdded neu feicio, neu’n caniatáu i’w plant gerdded neu feicio i’r ysgol.
Dyma newid cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gydymffurfio ag ef.
Bydd GanBwyll a’r Heddlu yn gorfodi’r cyfyngiadau 20mya, fel yn achos unrhyw derfyn cyflymder arall, er mwyn sicrhau bod ein ffyrdd yn fwy diogel i bob defnyddiwr. Byddant hefyd yn helpu i addysgu ac ymgysylltu â gyrwyr.
Mae mwy o wybodaeth ar dudalen Cwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru a thudalen we Cyfyngiadau cyflymder 20mya yng Nghymru Cyngor Wrecsam.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.