Bydd gorsafoedd pleidleisio ar draws cyngor bwrdeistref sirol Wrecsam yn agor ddydd Iau nesaf ar gyfer yr Etholiadau Ewropeaidd.
Mae cyfeiriad eich gorsaf bleidleisio ar eich cerdyn pleidleisio a bydd ar agor o 7am-10pm.
Os ydych chi’n pleidleisio drwy’r post, cofiwch bleidleisio ac anfon y bleidlais yn yr amlen a ddarperir gyda’r cyfeiriad a’r stamp arni neu fe allwch fynd â’r amlen i unrhyw orsaf bleidleisio.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Yn yr etholiadau hyn rydym yn pleidleisio dros Gymru gyfan i gael pedwar Aelod yn Senedd Ewrop a fydd yn cynrychioli Cymru gyfan a gallwch weld pwy sy’n sefyll yn yr etholiad yng Nghymru yma.
Caiff ASEau eu hethol drwy ddefnyddio cynrychiolaeth gyfrannol – mae’r blaid sy’n ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau yn ennill y nifer fwyaf o seddi. Bydd angen i chi bleidleisio drwy roi “X” wrth y blaid o’ch dewis. Peidiwch â thanlinellu, rhoi cylch o amgylch na cheisio nodi unrhyw ymgeisydd penodol os gwelwch yn dda gan y gallai hyn wneud eich papur pleidleisio yn annilys.
Bydd y pleidleisiau’n cael eu cyfrif ddydd Sul, Mai 26 a bydd y Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol, Ian Westley, o Sir Benfro, yn cyhoeddi canlyniad Cymru.
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU