Y mis diwethaf, lansiodd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ‘Llangollen Arlein’ #cysyllturbyd, sef cynnig digidol i ddod â’i chymuned fyd-eang ynghyd yn dilyn gohirio gŵyl eleni. Yr wythnos nesaf, yn yr hyn a fyddai wedi bod yn ‘Wythnos yr Eisteddfod’, bwriedir darparu rhaglen o weithgareddau arlein i roi blas o’r Eisteddfod Ryngwladol i’r nifer fawr o gyfranogwyr ac ymwelwyr sydd fel arfer yn tyrru bob Gorffennaf i’r dref hardd hon yn Sir Ddinbych.
I agor yr wythnos ar ddydd Mawrth y 7fed o Orffennaf, cyflwynir neges arbennig gan noddwr yr Eisteddfod Ryngwladol, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Mae hyn yn cynnal y berthynas hir rhwng yr Eisteddfod Ryngwladol a Thywysog Cymru, sydd wedi ymweld â’r ŵyl deirgwaith. Mewn digwyddiad cofiadwy yn ystod ei ymweliad diweddaraf yn 2015, cafodd y Tywysog ei annog i ymuno mewn dawns gydag aelodau o dawnswyr Sheerer Punjabi, grŵp bhangra o Nottingham, ar gychwyn Gorymdaith y Cenhedloedd, un o draddodiadau nodedig yr Eisteddfod.
Ar ddydd Iau y 9fed o Orffennaf, fel rhan o ‘Ddiwrnod Heddwch’ traddodiadol yr ŵyl, bydd cynulleidfaoedd arlein yn cael gweld Neges Heddwch Rhyngwladol gyntaf erioed yr Eisteddfod. Prif ran y digwyddiad fydd perfformiad llafar o gerdd gomisiwn arbennig, Harmoni a Heddwch, a ysgrifennwyd gan Mererid Hopwood. Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan y mae Llywydd yr Eisteddfod Ryngwladol, Terry Waite, ynghyd â phlant o Ysgol Rhostyllen, Ysgol San Silyn Wrecsam ac Ysgol Dinas Bran. Bydd y premiere arlein hefyd yn cyflwyno perfformiad cyntaf darn newydd o gerddoriaeth, wedi’i ganu gan y soprano o Wrecsam, Elan Catrin Parry, gyda geiriau gan Mererid Hopwood a cherddoriaeth gan Edward-Rhys Harry.
Dywed Edward-Rhys Harry, Cyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: “Rydym yn falch iawn o agor yr wythnos ar y dydd Mawrth gyda neges gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Yn draddodiadol dydd Mawrth yr Eisteddfod yw Diwrnod y Plant, felly byddwn yn cynnal première arlein ein Neges Heddwch Diwrnod y Plant bryd hynny, gydag elfennau ohoni’n cael eu cynnwys hefyd yn ein Neges Heddwch Rhyngwladol ar y dydd Iau.
Dyma’r tro cyntaf erioed i ni wneud unrhyw beth fel hyn ac rydym yn teimlo’n gyffrous iawn i allu rhannu’r neges arlein gyda’n cymuned ryngwladol. Mae wedi bod yn anhygoel cael Mererid Hopwood i greu cerdd newydd i ni sydd wedi crisialu hanfod ein gŵyl, ac rydym wedi ein rhyfeddu gan haelioni pobl eraill sydd wedi rhoi o’u hamser i’n helpu i greu Llangollen Arlein. Rydym yn teimlo’n wylaidd a diolchgar iawn ac yn gobeithio y bydd pobl yn mwynhau cael ‘blas o Langollen’ eleni.”
Bardd o Gymru yw Mererid Hopwood, ac yn 2001 hi oedd y ferch gyntaf erioed i ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, enillodd y Goron yn 2003 a’r Fedal Ryddiaith yn 2008. Hi oedd Bardd Plant Cymru yn 2005. Enillodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Nes Draw, gategori Barddoniaeth Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2016 a chafodd ei dewis i Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru 2016. Ar hyn o bryd mae’n Athro Ieithoedd a’r Cwricwlwm Cymreig ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Dros y 4 wythnos ddiwethaf mae pobl wedi bod yn pleidleisio trwy gyfrwng Llangollen.TV dros eu hoff berfformiadau ac eiliadau cofiadwy o’r 25 mlynedd diwethaf, wrth wylio clipiau ffilm yn arddangos perfformwyr o 57 o wahanol wledydd ac ymhell dros 10,000 o gystadleuwyr. Mae degau o filoedd o bobl wedi pleidleisio mewn pum categori a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi’n fyw ar sioe ddyddiol S4C ‘Prynhawn Da!’ yn ogystal ag ar Llangollen TV bob dydd yn ystod yr hyn a fyddai wedi bod yn Wythnos Eisteddfod Llangollen 2020 o ddydd Mawrth y 7fed o Orffennaf a dydd Sadwrn yr 11eg o Orffennaf.
Bydd yr wythnos hefyd yn cynnwys Gwobrau Heddychwyr Ifanc, ar y cyd â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), première arlein o Neges Diwrnod y Plant gan Chris Dukes gyda phlant ysgol lleol o Ysgol Bryn Collen, Llangollen ac Ysgol Uwchradd Catholig ac Anglicanaidd St Joseph, Wrecsam, a negeseuon gan gystadleuwyr o bob cwr o’r byd.
Bydd ‘Wythnos Eisteddfod’ yn dod i ben gyda rhaglen ddogfen 90 munud ar S4C am 7.30pm ar ddydd Sul 12fed o Orffennaf, fydd yn bwrw trem yn ôl ar rai o eiliadau mwyaf cofiadwy y 25 mlynedd diwethaf.
Fel tamaid i aros pryd cyn cychwyn yr wythnos, gall cynulleidfaoedd ailfyw Llangollen 2019 gyda darllediad arbennig o raglen uchafbwyntiau’r llynedd i’w dangos ar BBC TWO Wales am 7pm ar ddydd Sul y 5ed o Orffennaf.
Ewch i www.llangollen.net i gael manylion llawn Llangollen Arlein.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN