Mae lle i fyw modern yn helpu pobl yn Wrecsam sydd ag anawsterau dysgu dwys i fwynhau bywyd mwy annibynnol.
Roedd Heddwch yn arfer bod yn breswylfa pedair ystafell wely i bobl oedd ag anableddau dysgu difrifol.
Ond gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a ChlwydAlyn, mae wedi cael ei ailddatblygu’n bedair fflat un-ystafell-wely gydag ardaloedd cyffredin a staff, sy’n rhoi mwy o annibyniaeth i’r preswylwyr ond hefyd yn sicrhau eu bod yn cael yr help maent ei angen.
Mae’r gwaith adeiladu wedi’i wneud gan gwmni Williams Homes o Ogledd Cymru ac fe groesawodd yr adeilad ar ei newydd wedd y preswylwyr cyntaf yn gynharach eleni.
Lle diogel i fyw’n annibynnol
Dywedodd Suzanne Mazzone, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Tai Cymdeithas ClwydAlyn:
“Rydym ni wedi gallu ailddatblygu Heddwch yn gyfleuster byw a chymorth unigryw i ddarparu gofal a chymorth 24 awr i breswylwyr, gan hefyd alluogi byw’n annibynnol mewn fflatiau hunangynhwysol diogel.
“Mae’r cynllun wedi bod yn bosib’ trwy waith mewn partneriaeth rhwng ClwydAlyn, Cyngor Wrecsam a Williams Homes, ac rydym ni’n falch i ni allu cydweithio i ddarparu cartrefi a chymorth o safon i wella bywydau’r preswylwyr.”
Gwneud gwahaniaeth
Y gred yw bod mwy na 2% o oedolion yn y DU ag anableddau dysgu, a bod gwahanol bobl yn cael eu heffeithio mewn gwahanol ffyrdd.
I rai, gall fod yn llawer mwy anodd cadw trefn ar bethau dydd-i-ddydd fel tasgau o amgylch y tŷ, cymdeithasu neu ddeall gwybodaeth gymhleth.
Ond gyda digon o help, gallant oresgyn yr heriau hyn a theimlo’n fwy diogel a hyderus yn eu bywydau.
Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion yng Nghyngor Wrecsam:
“Mae Heddwch yn gyfleuster byw â chymorth arbennig, ac mae eisoes yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
“Mae’n cynnig y cydbwysedd cywir rhwng cymorth ac annibyniaeth, ac mae’n un enghraifft o’r ffordd mae’r Cyngor a’i bartneriaid yn gweithio i helpu pobl sydd ag anawsterau dysgu.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd ynghlwm â Heddwch. Braf iawn yw gweld prosiectau fel hwn yn dwyn ffrwyth – maen nhw’n gwneud gwahaniaeth enfawr i gymaint o bobl a’u teuluoedd.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid trwy ei Chronfa Gofal Integredig, sy’n cefnogi prosiectau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN