Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Train carriage
Cyngor Wrecsam yn cefnogi cais newydd am wasanaethau rheilffordd uniongyrchol i Lundain Euston
Arall
save the date
Mae Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd am ei drydedd flwyddyn…Rhagfyr 4 🎄
Digwyddiadau Pobl a lle
telecare scam
Sgàm Teleofal
Y cyngor
Daw ‘Gwlad Hudol y Nadolig’ i Tŷ Pawb ddydd Sadwrn yma!
Daw ‘Gwlad Hudol y Nadolig’ i Tŷ Pawb ddydd Sadwrn yma!
Pobl a lle
Diweddariad ar safle tirlenwi Hafod – Tachwedd 2025
Diweddariad ar safle tirlenwi Hafod – Tachwedd 2025
Arall Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor

Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2025/07/11 at 2:39 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
housing repairs van
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam wedi cymryd cam sylweddol ymlaen o ran darparu gwasanaethau wrth gyhoeddi gostyngiad sylweddol yn ei ôl-groniad atgyweiriadau tai.

Sefydlwyd Grŵp Gwella Atgyweiriadau ym mis Chwefror 2025, sy’n cynnwys nifer fach o swyddogion a’r Aelod Arweiniol dros Tai a Newid yn yr Hinsawdd. Pwrpas y grŵp oedd archwilio ffyrdd o leihau nifer yr atgyweiriadau gweithredol yn barhaus, monitro perfformiad a gyrru gwelliannau.

Nod yr Adran Tai yw blaenoriaethu lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau, a chyflawni atgyweiriadau o safon sy’n cael eu cyflwyno o fewn y graddfeydd amser a ddyrannwyd i’w stoc dai o 11,087.

Mae’r adran yn derbyn ceisiadau rheolaidd am atgyweiriadau, gyda 43,499 o atgyweiriadau yn cael eu hadrodd i’r Ganolfan Gwasanaethau Tai yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Yna mae’r swyddi hyn yn cael eu trosglwyddo i Sefydliad Llafur Uniongyrchol (SLlU) mewnol y Cyngor neu gontractwr allanol.

Bydd lefelau adnoddau, gofynion gwasanaethau, prentisiaid, capasiti ac allbynnau yn parhau i gael eu monitro i ddarparu’r gwasanaeth gorau. Wrth wneud hynny, mae’r Adran Tai wedi gweld gostyngiad sylweddol yn yr ôl-groniad atgyweiriadau.

Ym mis Ionawr 2024, roedd y ffigur atgyweiriadau gweithredol cyffredinol yn 5,507. Ar 6 Gorffennaf 2025, mae’r rhestr atgyweiriadau gweithredol yn cynnwys cyfanswm o 2,995 o atgyweiriadau. Felly, o Ionawr 2024 tan 6 Gorffennaf 2025, bu gostyngiad cyffredinol o 2,512 o atgyweiriadau gweithredol a pharhaus, gyda 611 o’r rhestr bresennol eisoes wedi’i trefnu gyda Deiliaid Contract.

Mae’r SLlU mewnol yn trin 1,751 o swyddi y mis ar gyfartaledd, sy’n golygu bod yr ôl-groniad yn agosach at y cyfartaledd misol, sy’n awgrymu cynnydd enfawr wrth sefydlogi llwythi gwaith.

Mae atgyweiriadau gwaith tir yn arbennig wedi gwella 95.06% dros y 12 mis diwethaf, sy’n gyflawniad rhagorol.

Ar 16 Gorffennaf, bydd Tai yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor Craffu Tai a’r Amgylchedd i gyflwyno’r gwelliannau atgyweirio diweddar.

Mae’r gwelliant yn gyfuniad o fwy o recriwtio gweithredol ac ymdrechion amserlennu wedi’u targedu. Wrth i staff newydd gael eu hyfforddi a’u hintegreiddio i’r arferion gwaith presennol, mae’r Cyngor yn credu y bydd yn gweld gwelliant parhaus.

Mae ffocws sylweddol wedi bod ar ddiogelu’r gweithlu yn y dyfodol trwy barhau i hyfforddi staff, i gyd-fynd â chyflymder datblygiadau technolegau ac arferion sy’n newid. Mae’r tîm Atgyweiriadau’n cefnogi rhaglen brentisiaethau, gan ddangos hyn gyda’u pum prentis sy’n datblygu eu sgiliau i fodloni’r safonau uchel.

Mae galw tymhorol yn dylanwadu’n fawr ar y rhestr atgyweirio gweithredol, gyda stormydd a thywydd garw yn aml yn achosi oedi a chyfyngiadau ychwanegol. Er enghraifft, ym mis Rhagfyr 2024 derbyniwyd 802 darn o waith mewn cyfnod o bedwar diwrnod, gall cynifer o achosion o’r fath achosi oedi mewn gwasanaeth a chwarae rhan yn yr amrywiad parhaus mewn ffigurau atgyweiriadau.

Cytunodd Y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd a Julie M Francis, Prif Swyddog Tai, “Mae’r gostyngiad yn ein hôl-groniad atgyweiriadau yn dyst i’r ffocws o’r newydd i ddarparu gwasanaeth atgyweirio o ansawdd uchel ac amserol i ddeiliaid contract ledled Wrecsam. Trwy gydweithio a buddsoddi yn y gweithlu yn y dyfodol, rydym yn falch o fod yn gwneud cynnydd cryf ac yn edrych ymlaen at weld sut y gall hyn wella ymhellach.”

Wrth fwrw ymlaen, bydd yr adran atgyweiriadau yn parhau i ddefnyddio staff sydd fel arfer yn gweithio ar eiddo gwag, yn gwneud blaenoriaethau manwl, yn monitro llwythi gwaith yn rheolaidd, yn gweithio’n fwy effeithlon ac yn defnyddio systemau TGCh sydd ar gael ar gyfer cofnodi gwaith, ac yn parhau i gael trafodaethau rheolaidd â’r Grŵp Gwella Atgyweiriadau mewnol.

TAGGED: repairs, wrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen
Erthygl nesaf Plastic Free July Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Train carriage
Cyngor Wrecsam yn cefnogi cais newydd am wasanaethau rheilffordd uniongyrchol i Lundain Euston
Arall Rhagfyr 2, 2025
save the date
Mae Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd am ei drydedd flwyddyn…Rhagfyr 4 🎄
Digwyddiadau Pobl a lle Rhagfyr 2, 2025
telecare scam
Sgàm Teleofal
Y cyngor Rhagfyr 2, 2025
Daw ‘Gwlad Hudol y Nadolig’ i Tŷ Pawb ddydd Sadwrn yma!
Daw ‘Gwlad Hudol y Nadolig’ i Tŷ Pawb ddydd Sadwrn yma!
Pobl a lle Rhagfyr 1, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

telecare scam
Y cyngor

Sgàm Teleofal

Rhagfyr 2, 2025
ddiwrnod y cesglir eich biniau
Y cyngor

Mae bob amser yn syniad da gwirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig

Rhagfyr 1, 2025
Demolition
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddymchwel hen orsaf heddlu yng Nghefn Mawr i wneud lle ar gyfer tai cymdeithasol newydd

Tachwedd 27, 2025
Student with their school bag
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Ceisiadau ar agor ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol

Tachwedd 25, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English